Ble galla’i gael copi o fy nhystysgrif adeiladu?
Yn aml, mae angen i berchenogion tai ac asiantau ofyn am gopïau o dystysgrifau i brofi bod gwaith wedi'i wneud ar dai neu adeiladau eraill. Isod mae gwybodaeth am bwy i gysylltu â hwy i gael copi o dystysgrif adeiladu.
Cymeradwyaeth, Llythyrau Archwilio Terfynol a/neu Dystysgrifau Cwblhau
Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i gael copi o dystysgrif gwblhau.
Efallai y codir tâl gweinyddol am hyn ac os na chafodd tystysgrif gwblhau ei chyflwyno, efallai yr anfonir llythyr Archwiliad Terfynol atoch yn lle hynny (neu efallai y trefnir archwiliad os na chynhaliwyd Archwiliad Terfynol).
Dod o hyd i fanylion cyswllt tîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol yn hawdd ac yn gyflym.
Tystysgrifau gwarant
Os bydd gofyn i chi ddarparu tystysgrif Gwarant yr LABC, cysylltwch â Gwarantau'r LABC.
Os rhoddwyd y warant adeileddol gan ddarparwr arall, cysylltwch â hwy'n uniongyrchol.
Gwaith wedi'i hunanardystio
Os yw gwaith wedi'i wneud gan aelod o Gynllun Personau Cymwys, e.e. gwaith trydanol, plymwaith neu nwy, dylech gysylltu â gweithredwr y cynllun dan sylw.
Rhagor o wybodaeth
A oes arnoch angen cymorth ag adeilad newydd, prosiect hunanadeiladu neu waith adnewyddu? Ewch i’n tudalen Perchenogion Tai.