Alla'i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi?
Efallai y cewch chi hysbysiad gorfodi gan eich awdurdod lleol os ydyn nhw'n credu nad yw gwaith adeiladu yn eich cartref neu o'i gwmpas yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi gywiro'r gwaith sy'n mynd yn groes i'r rheoliadau adeiladu, neu hyd yn oed ei dynnu i lawr.
Mae gen i hysbysiad gorfodi ond rydw i'n meddwl bod fy ngwaith adeiladu'n cydymffurfio. Beth alla'i ei wneud?
Os ydych chi'n meddwl bod eich gwaith yn cydymffurfio, gallwch chi apelio yn erbyn yr hysbysiad mewn dwy ffordd:
- Cysylltu â'ch awdurdod lleol a gofyn am adroddiad, wedi'i ysgrifennu gan unigolyn â chymhwyster addas, ynglŷn â chydymffurfiad eich gwaith a cheisio dod i gytundeb ynglŷn â'r mater. Yn yr achos hwn, bydd y cyfnod 28 diwrnod rydych chi'n ei gael gan yr awdurdod lleol i addasu'r gwaith adeiladu neu ei dynnu i lawr yn cael ei ymestyn i 70 diwrnod.
- Mynd â'ch apêl i'r llys ynadon lleol a dangos bod eich gwaith adeiladu'n cydymffurfio. Bydd rhaid i chi apelio o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn yr hysbysiad neu o fewn 70 diwrnod os ydych chi wedi mynd drwy'r opsiwn cyntaf yn barod.
Pa bynnag broses rydych chi'n ei defnyddio, os ydych chi'n llwyddiannus efallai y gwnaiff eich awdurdod lleol dalu eich costau.
Apeliadau eraill
Os ydych chi'n credu na ellir disgwyl i'ch gwaith gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu mewn rhyw ffordd neu'i gilydd oherwydd bod rhyw ofyniad yn amherthnasol, gallwch chi wneud cais i'ch cyngor lleol am rywbeth o'r enw llacio neu hepgor gofyniad rheoliadau adeiladu fel bod modd ystyried bod eich gwaith adeiladu'n cydymffurfio.
Mae'n rhaid i chi wneud cais am lacio neu hepgor o fewn 28 diwrnod ar ôl derbyn yr hysbysiad gorfodi gan eich awdurdod. Efallai y caiff ceisiadau eu gwrthod, ac os felly, mae gennych chi hawl i apelio (o fewn mis) i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Lloegr, neu i Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Ydych chi eisiau gwneud yn siŵr bod eich gwaith adeiladu'n iawn yn y lle cyntaf?
Cysylltwch â'ch tîm rheoli adeiladu lleol i gael cyngor ac arweiniad proffesiynol
Ein cwestiynau cyffredin eraill i berchenogion tai