Oes angen tystysgrif gwblhau ar gyfer gwaith adeiladu yn fy nhŷ?
Pam mae tystysgrif gwblhau yn bwysig ar gyfer rhai mathau o waith adeiladu yn eich tŷ? Dyma pam...
Mae tystysgrif gwblhau yn sicrhau bod gwaith adeiladu'n ddiogel
Mae'n syml - os nad yw gwaith adeiladu wedi cael tystysgrif rheoliadau adeiladu i'w gymeradwyo, mae'n bosibl bod adeiledd yr adeilad yn beryglus. Pan fydd syrfewyr rheoli adeiladu'n archwilio eich eiddo, byddan nhw'n cynnal gwiriadau llym, gan asesu pethau fel:
- sylfeini
- tir a lloriau
- adeiledd y to
- sefydlogrwydd adeileddol
- ynysu thermol
- awyru
- amddiffyn rhag tân
- gwrthleithder
- draenio.
Bydd angen i'r syrfëwr fod yn fodlon â'r gwaith cyn cyflwyno tystysgrif gwblhau sy'n profi bod y gwaith adeiladu ar yr eiddo'n bodloni'r rheoliadau adeiladu a'i fod yn ddiogel. Gallwch chi gael gwybod mwy am fynd drwy'r broses ar ein tudalen 5 cam at gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu.
Gallai gwaith ychwanegol fod yn gostus heb gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
Os yw'r cyngor yn darganfod bod gwaith adeiladu yn eich cartref, neu mewn eiddo arall, yn methu â bodloni'r rheoliadau adeiladu, gallen nhw gymryd camau gorfodi yn eich erbyn o fewn 12 mis ar ôl dyddiad gorffen y gwaith. Bydd hyn yn golygu bod rhaid i chi wneud addasiadau neu hyd yn oed gael gwared ar y gwaith, ac yn achosi llawer iawn o aflonyddwch ac anghyfleustra. Os na chymerwch chi'r camau gofynnol, mae gan yr awdurdod lleol y grym i wneud y gwaith ei hun ac adennill y costau gennych chi gan mai chi yw perchennog yr eiddo.
Mae eiddo heb dystysgrif gwblhau'n gwerthu am lai
Yn gyffredinol, bydd tŷ â llawer o waith wedi'i wneud arno heb gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu yn gwerthu am lai. Mae absenoldeb tystysgrif gwblhau'n gallu digalonni prynwyr oherwydd bod elfen o ansicrwydd a llai o sicrhad bod y gwaith adeiladu'n ddiogel ac yn bodloni'r safonau ansawdd sydd wedi'u nodi yn y Rheoliadau Adeiladu (2010).
Mae tystysgrifau cwblhau'n ymddangos mewn chwiliadau awdurdod lleol
Mae chwiliadau awdurdod lleol, neu chwiliadau tir lleol, yn cael eu cynnal gan gyfreithwyr trosglwyddo eiddo neu fenthycwyr morgeisi ac maen nhw'n rhan hanfodol o'r broses o brynu a gwerthu cartrefi. Os ydych chi'n gwerthu eich eiddo, bydd prynwyr yn gallu defnyddio gwybodaeth o'r chwiliadau hyn, gan gynnwys tystysgrifau cwblhau coll, i geisio newid y pris. Gallai hyn achosi i'r gwerthiant fethu – y peth olaf rydych chi ei eisiau ar yr adeg hon.
Mae angen i fenthycwyr morgeisi wybod y manylion
Os ydych chi'n bwriadu cymryd morgais i brynu eiddo, bydd angen i chi adael i'ch benthyciwr morgeisi wybod os oes gwaith wedi'i wneud ar yr eiddo a bod angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. Os nad oes tystysgrif gwblhau, mae'n cyflwyno elfen o risg i'r benthyciwr morgeisi ac mae'n debygol y bydd angen rhywbeth i'w amddiffyn rhag y risgiau.
Mae yswiriant adeiladau'n gallu bod yn annilys heb dystysgrif gwblhau
Mae'n bwysig cofio, os nad oes tystysgrif gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu ar gyfer addasiadau i'ch eiddo, y gallai eich cwmni yswiriant wrthod talu yn unol â'r polisi yswiriant adeiladau sydd gennych chi â nhw. Felly, pan fydd angen atgyweirio neu ailadeiladu adeiledd eich cartref oherwydd difrod gan ddigwyddiad anffodus fel tân neu storm, efallai y bydd rhaid i chi dalu'r gost eich hun.
Tawelwch meddwl
Ar y cyfan, mae tystysgrif gwblhau'n beth da i'w chael. Fel prynwr tŷ, bydd gweld bod gwaith i wella'r cartref wedi cael tystysgrif gwblhau yn gwneud i chi deimlo'n fodlon bod y gwaith adeiladu wedi'i gymeradwyo'n swyddogol, a'i fod yn adeileddol sefydlog ac yn ddiogel i fyw ynddo. Byddwch chi hefyd yn gwybod bod y tŷ mewn cyflwr da ac na fydd angen gwaith addasu neu atgyweirio drud yn nes ymlaen.
Pan ddaw'r amser i werthu eich tŷ, bydd gwaith adeiladu sydd wedi cael tystysgrif gwblhau gan gorff rheoli adeiladu yn gweithio o'ch plaid chi drwy roi hyder i brynwyr, asiantau, benthycwyr morgeisi a chwmnïau yswiriant. Dylai'r holl broses fod yn llai trafferthus – er mwyn i chi allu symud ymlaen yn gyflym a dechrau bywyd newydd yn rhywle arall!
Edrychwch ar ein tudalennau poblogaidd eraill ynglŷn â chymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
- 5 cam i gael cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu
- Ble galla'i gael copi o fy nhystysgrif adeiladu?
- Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i addasu fy atig?
- Dim cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu? Beth yw'r ateb?
- Pam mae rheoli adeiladu'n bwysig?