Ein tîm hyfforddi
Ein hyfforddiant sydd wedi ennill gwobrau yw’r unig hyfforddiant i’r diwydiant sy’n cael ei ddiweddaru’n gyson i gyd-fynd â newidiadau i’r rheoliadau. Felly, does dim syndod ein bod ni wedi ein sefydlu ein hunain fel safon y diwydiant yn gyflym – nid dim ond i weithwyr proffesiynol rheoli adeiladu, ond hefyd i gynllunwyr, dylunwyr, penseiri, syrfewyr, adeiladwyr tai a datblygwyr.
Beth rydyn ni'n ei wneud
Rydyn ni'n adolygu ac yn ehangu ein portffolio o gyrsiau’n gyson – gan ymateb i’r galw gan y diwydiant er mwyn gallu cyflwyno cyrsiau newydd drwy gydol y flwyddyn. Mae ein cyrsiau’n dechrau o gyn lleied â £70 (hyd yn oed llai os ydych chi'n trefnu cwrs mewnol) ac rydyn ni'n darparu hyfforddiant hygyrch o safon uchel i weithwyr proffesiynol ym maes adeiladu sy’n rhoi gwerth gwych am arian ac ar gael ym mhob cwr o’r wlad! Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i ddileu’r malu awyr a chanolbwyntio ar fusnes, ac maent yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n dychwelyd i’r diwydiant, yn dechrau ymwneud yn fwy gweithredol ag ef neu a hoffai gael ei atgoffa. Caiff ein cyrsiau i gyd eu cynnal gan arbenigwyr uchel eu parch yn y diwydiant.
I weld beth sydd gennyn ni ar y gweill, ewch i’n calendr beth sy’n digwydd neu porwch drwy ein catalog o gyrsiau a chynadleddau. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw ymholiad sy’n ymwneud â hyfforddiant, cysylltwch â’n tîm hyfforddiant.
Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn ffordd o gynnal gwybodaeth a sgiliau proffesiynol hanfodol drwy ddysgu mewn modd strwythuredig. Bydd yr LABC yn darparu tystysgrifau datblygiad proffesiynol parhaus i’n holl gyrsiau hyfforddiant a chynadleddau.
Yn olaf ond yn sicr nid lleiaf, gallwch chi ddysgu am Ddiplomâu Lefel 4 a 5 Arolygu Rheoli Adeiladu yr LABC a'r cwrs Gradd sydd ar y gweill.
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch ebost i learning@labc.co.uk neu ffoniwch ni ar 020 7091 6860.