Pam dewis rheoli adeiladu awdurdod lleol?
Mae dewis tîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol yn ddewis cadarnhaol, a dyma rai o'r rhesymau pam.
Pum rheswm pam mae rheolaethi adeiladu awdurdodau lleol yn rhoi tawelwch meddwl i chi
- Rydym yn gweithio i awdurdodau lleol ac yn annibynnol, felly mae ein cyngor yn ddiduedd bob amser.
- Mae ein rhwydwaith yn cynnwys pob awdurdod lleol, sy’n cynrychioli cyfanswm o 3,000 o syrfewyr adeiladu proffesiynol a staff cymorth technegol. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gallu rhoi cymorth lleol cyflym i unrhyw gwsmer yn unrhyw le a gweithio’n rheolaidd gyda chynllunwyr, swyddogion cadwraeth, swyddogion mynediad, y gwasanaethau tân, priffyrdd a sefydliadau eraill os oes angen eu cyfraniad.
- Mae rheolaethi adeiladu awdurdodau lleol yn wasanaeth dielw ac rydym yn cynnig ffioedd cystadleuol am wneud gwaith da iawn. Rydym ar gael bob amser, hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd neu rywbeth annisgwyl yn digwydd.
- Mae’r LABC yn gweithio gyda chynhyrchwyr, cyrff masnach, sefydliadau proffesiynol a chyrff cydnabyddedig eraill i sicrhau bod safonau wedi’u diffinio’n dda ac yn hawdd eu defnyddio.
- Rydym yn darparu hyfforddiant a chyngor gan gynnwys arweiniad di-dâl, datblygiad proffesiynol parhaus a digwyddiadau hyfforddiant i helpu i addysgu ein cwsmeriaid a gwella eu gwaith. Rydym hefyd yn darparu cymorth a chyngor yn uniongyrchol i berchenogion tai.
Read more about the reasons why building control is important here.
Click and enter your postcode to contact your local council's building control team