Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rhanbarthol yr LABC 2018
Mae cynigion ar gyfer 2018 nawr ar agor!
Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rhanbarthol yr LABC yw'r gwobrau busnes i fusnes mwyaf yn y DU. Mae ein rhwydwaith yn cynnwys pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr ac mae wedi'i rannu'n 12 rhanbarth, ac mae pob un o'r rhain yn cynnal eu gwobrau rhanbarthol eu hunain.
Pwy sy'n cael cynnig a beth yw'r broses?
Mae syrfewyr rheoli adeiladu, adeiladwyr, penseiri, dylunwyr ac unrhyw un arall sy'n ymwneud â phrosiect adeiladu lle darparwyd y gwaith rheoli adeiladu gan dîm awdurdod lleol yn cael cyflwyno cynnig i'r rhanbarth perthnasol, ac yna bydd panel o feirniaid yn adolygu'r rhain ac yn llunio rhestr fer.
Gwahoddir y cynigion sydd ar y rhestr fer i fod yn bresennol yn y gwobrau rhanbarthol, a gwahoddir yr enillwyr i fod yn bresennol yn y Rownd Derfynol Fawr, sy'n cael ei chynnal yn Llundain ac sy'n denu dros 700 o westeion. Gallwch chi weld eich dyddiad cau isod, neu os ydych chi eisoes yn gwybod eich dyddiad cau, dechreuwch enwebu rhywun i ennill gwobr nawr!
(DS, mae'n broses 2 gam eleni ac mae'r brif ffurflen wedi'i chadw ar wefan cyflwyniadau arbennig Submittable.)
