Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud newidiadau mewnol?
Dyma rai camau y bydd angen i chi eu cymryd cyn gwneud addasiadau mewnol. Ni fydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer pob un o’r rhain – y rheol gyffredinol yw os yw’r gwaith yn ymwneud â waliau sy’n dal pwysau, simneiau, lleoedd tân neu waliau o gwmpas grisiau, bydd angen i’ch tîm rheoli adeiladu lleol archwilio a chymeradwyo’r addasiad. Felly siaradwch â hwy cyn gynted â phosibl.
Os ydych yn gwneud mân newidiadau megis amnewid teils to â theils o’r un math a’r un pwysau; ailosod ffelt to gwastad; ailbwyntio gwaith brics; neu ailosod estyll ni fydd angen caniatâd eich tîm rheolaethi adeiladu lleol i wneud y gwaith.
Adeiladu, tynnu neu newid waliau
Fideo am newid cynllun neu adeiledd eich cartref
Amnewid ffenestri
Ffenestri crwm a simneiau
Gallwch chi ddysgu mwy drwy wylio ein fideo am newidiadau mewnol i gynllun neu adeiledd eich cartref:
Adeiladu, tynnu neu newid waliau
- Mae gan waliau mewnol nifer o swyddogaethau: mae rhai’n dal y nenfwd a’r lloriau uwch i fyny, mae rhai yno i’ch helpu i ddianc o’r tŷ mewn tân ac mae eraill yno i rannu’r gofod.
- Waliau sy’n dal pwysau – mae’r rhain yn rhan sylfaenol o adeiledd eich tŷ a dylech gael cyngor arbenigol gan bensaer neu beiriannydd adeileddol cyn eu newid, eu hadeiladu neu eu tynnu. Wrth dynnu wal sy’n dal pwysau, bydd peiriannydd adeileddol yn ystyried y llwythi ar y wal ac yn cynllunio trawst ac adeileddau cynnal eraill i drosglwyddo’r llwythi i’r ddaear yn ddiogel.
- Amddiffyn rhag tân – mae waliau o gwmpas grisiau’n cynnig diogelwch i’ch galluogi i ddianc mewn tân, felly bydd addasu’r waliau hyn yn golygu y bydd hi’n debygol y bydd angen i chi gymryd camau eraill megis gosod larymau mwg neu ffenestri i fyny’r grisiau sy’n addas i’w defnyddio fel dihangfa dân i wneud iawn am hyn.
Watch video: What's the difference between planning and building regulations?
Amnewid ffenestri
Yn gyffredinol, gellir gwneud gwaith atgyweirio ffenestri megis amnewid gwydr wedi torri, gwydr dwbl wedi niwlo, barrau wedi pydru a darnau o’r ffrâm wedi pydru heb gael cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. Ond os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth neu ardal o harddwch naturiol eithriadol, neu os yw eich tŷ’n rhestredig, bydd angen i chi gael cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu (ac efallai ganiatâd cynllunio hefyd) i wneud bron unrhyw waith gwydro – felly holwch eich tîm rheolaethi adeiladu lleol.
Fel rheol, byddai angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i ailosod ffenestri’n llwyr, ond gellir gwneud y rhan fwyaf o waith drwy ddefnyddio gosodwr wedi’i gofrestru â FENSA. Bydd y gosodwr yn gwneud y gwaith yn unol â’r safonau cywir ac yn darparu’r holl dystysgrifau perthnasol i chi ar ôl cwblhau’r gwaith. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn ein hadran Cynlluniau Personau Cymwys.
Ffenestri crwm a simneiau
Mae ffenestri crwm a simneiau fel arfer yn dal pwysau, felly bydd angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i wneud unrhyw newidiadau iddynt a dylech geisio cyngor arbenigol gan beiriannydd adeileddol neu adeiladwr cyn gwneud gwaith. Os hoffech dynnu brest simnai, bydd peiriannydd adeileddol neu bensaer yn gallu asesu cryfder y pared neu’r talcen a thrwch ac uchder ffliw’r simnai i gyfrifo pa fath o fesurau cynnal i’w gosod yn ei lle.
Efallai y bydd angen gosod leinin ffliw mewn simneiau sy’n gweithio, neu eu hadnewyddu, i atal mwg rhag gollwng i mewn i ystafelloedd, a dylid eu sgubo’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal i weithio’n effeithlon. Os ydych yn bwriadu gosod stof llosgi pren newydd, mae’n bwysig eich bod yn dilyn y gweithdrefnau gosod cywir. Mae mwy o wybodaeth am atgyweirio simneiau, ynghyd â chofrestr o gontractwyr cymwys, ar gael gan Gymdeithas Genedlaethol y Peirianwyr Simneiau.