Aelodaeth o'r CIOB drwy'r LABC
Pan fyddwch chi wedi cwblhau eich Gradd BSc Anrh LABC mewn Arolygu Rheoli Adeiladu, byddwch chi'n gymwys i wneud cais am aelodaeth o'r CIOB ar lefel Aelod Siartredig (MCIOB).
Bydd gofyn i chi gyflwyno eich Portffolio Proffesiynol o Brofiad fel rhan o'ch cais am aelodaeth ac o fewn y portffolio hwn mae'n rhaid i chi allu dangos o leiaf bedair mlynedd o brofiad yn y swydd.
Sut i ymgeisio
-
Rhaid i chi fod yn aelod heb fod yn Siartredig o'r CIOB yn barod. Os nad ydych chi'n aelod eto, bydd angen i chi gofrestru i gael cyfrif ar-lein ac yna ymgeisio am aelodaeth. Gallwch chi ddechrau'r broses yma.
-
Ffurflen Gais Llwybr Diwydiant Adolygiad Proffesiynol - Llwytho i Lawr
- Nodyn Arweiniad Llwybr Diwydiant Adolygiad Proffesiynol - Llwytho i Lawr
Bydd eich ffi danysgrifio flynyddol ar gyfer MCIOB yn £278 (cyfradd 2018). Mae Aelodaeth Myfyriwr o CIOB am ddim.
Ymgeiswyr heb radd
Mae Rhaglen Aelodaeth Siartredig y CIOB yn llwybr at MCIOB i unigolion sy'n brofiadol iawn ond heb gymwysterau ffurfiol ar lefel gradd anrhydedd.
Nod y rhaglen yw darparu llwybr at Aelodaeth Siartredig sy'n bodloni gofynion aelodaeth o'r CIOB, o safbwynt academaidd a chymhwysedd.
Gallwch chi gael gwybod mwy gan y CIOB yma.
Portffolio Proffesiynol
Dylai pawb gadw cofnod proffesiynol parhaus o ddatblygiadau i'w profiad, o bobl sy'n dechrau gyrfa ym maes rheoli adeiladu i rai sydd eisoes yn gwneud gwahanol swyddogaethau ar wahanol lefelau cyfrifoldeb. Gall eich portffolio fod mor syml â chadw cofnodion datblygiad proffesiynol parhaus fel rhan o ofynion aelodaeth corff proffesiynol, neu gall gynnwys cofnodi mathau o geisiadau, mathau o waith, mathau o arolygiadau, a lefelau cyfrifoldeb ar brosiectau rydych chi wedi ymwneud â nhw, i ddangos eich cyfrifoldebau a'ch cymwyseddau'n cynyddu.