Pam mae rheoli adeiladu'n bwysig?
Beth yw rheoli adeiladu? Dyma 10 rheswm pam mae angen gwasanaethau rheoli adeiladu ar gyfer popeth i'w wneud ag adeiladu.
1. Sicrhau bod adeiladau'n ddiogel i bobl
Mae'r gwasanaeth rheoli adeiladu'n sicrhau bod gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, cyfres o safonau â'r bwriad o ddiogelu pobl a'u hiechyd a'u lles yn yr amgylchedd adeiledig ac o'i gwmpas.
Mae'n bwysig sylweddoli mai'r bobl sy'n gwneud y gwaith adeiladu sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu, ac mai gwaith y tîm rheoli adeiladu yw gwirio eu bod nhw'n gwneud hynny.
Bydd timau rheoli adeiladu'n archwilio pob agwedd ar adeiladu gan gynnwys, ymysg eraill:
- sylfeini
- gwrthleithder
- materion adeileddol
- ynysu
- awyru
- gwresogi
- iechydaeth
- hygyrchedd adeilad
- amddiffyn rhag tân a ffyrdd o ddianc rhag tân
2. Amddiffyn pobl rhag adeiladwyr diegwyddor ac arferion anniogel
Mae ymweliadau rheolaidd â'r safle gan syrfewyr rheoli adeiladu yn ystod gwaith adeiladu yn helpu i sicrhau bod gwaith adeiladu ar y trywydd iawn i gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu. Mae syrfewyr yno i gynnig cyngor ac arweiniad i fodloni'r safonau gofynnol. Wrth gwrs, os nad yw pethau'n cael eu gwneud yn iawn, mae'n gallu bod yn gostus iawn unioni pethau.
Mae'r stori ddiweddar hon yn sôn am deulu wnaeth wario ffortiwn ar brosiect gardd i'w cartref, cyn cael eu gadael â gwaith heb ei orffen a phroblem ar ôl problem. (Dyma fwy o gyngor am osgoi adeiladwyr diegwyddor.)
3. Addysgu a hysbysu adeiladwyr proffesiynol, contractwyr a chrefftwyr
Ar brosiectau mawr a bach, mae timau rheoli adeiladu'n gweithio gyda pherchenogion eiddo, adeiladwyr a dylunwyr ac yn defnyddio eu sgiliau a'u barn broffesiynol i ganfod datrysiadau a gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyluniad a manyleb adeiladau ac adeileddau, yn aml hyd yn oed cyn i'r gwaith adeiladu ddechrau.
Mae syrfewyr rheoli adeiladu'n mynd ar gyrsiau hyfforddiant yn rheolaidd i gael gwybod am y datblygiadau diweddaraf ym maes adeiladu a'r rheoliadau adeiladu, ac mae cyswllt agos ag awdurdodau lleol eraill yn eu galluogi nhw i gyfnewid gwybodaeth a dealltwriaeth ar lefel genedlaethol, cyn trosglwyddo hyn i'r bobl maen nhw'n gweithio gyda nhw ar y safle.
4. Mae cosbau os nad yw tîm rheoli adeiladu wedi cymeradwyo adeilad neu adeiledd
Mae gan awdurdodau lleol bwerau unigryw o dan Ddeddf Adeiladu 1984 i orfodi'r Rheoliadau Adeiladu a mynnu bod gwaith adeiladu sydd ddim yn cydymffurfio'n cael ei addasu neu ei dynnu i lawr.
Gallai'r cwmni neu'r unigolyn sy'n gwneud eich gwaith adeiladu wynebu erlyniad a dirwy os nad yw'r gwaith yn bodloni safonau adeiladu, a gallai eich awdurdod lleol wneud i chi dalu am drwsio gwaith diffygiol. Ac mae achosion difrifol a mynych o fethu â bodloni safonau adeiladu hefyd yn gallu arwain at achos cyfreithiol a dirwy.
5. Mae cymeradwyaeth rheoli adeiladu'n bwysig wrth werthu neu ailforgeisio cartref
Ar ôl archwiliad terfynol gwaith adeiladu, mae perchenogion yr eiddo'n cael tystysgrif gwblhau sy'n cadarnhau bod y gwaith yn cydymffurfio'n llawn â'r rheoliadau adeiladu. Mae hon yn ddogfen bwysig sy’n cael ei defnyddio gan gyfreithwyr ac asiantau pan gaiff yr eiddo ei werthu, a hefyd gan fenthycwyr morgeisi ac yswirwyr eiddo. Mwy ynglŷn â phwysigrwydd tystysgrifau cwblhau.
6. Hybu adeiladau cynaliadwy sy'n effeithlon o ran egni
Rhan o swyddogaeth y rheoliadau adeiladu yw gwella cadwraeth tanwydd a phŵer, gwarchod a gwella'r amgylchedd a hybu datblygu cynaliadwy. Mae timau rheoli adeiladu'n gwirio bod nodweddion sy'n cyfrannu at hyn, fel paneli solar, ynysiad a goleuadau, yn cydymffurfio â'r safonau effeithlonrwydd.
Mae rheoli adeiladu'n chwarae rhan ganolog o ran cefnogi cynaliadwyedd, a gallwch chi ddarllen mwy am ddatblygiad ecolegol diweddar mae un o'n timau cyngor wedi bod yn gweithio arno yn yr erthygl hon.
7. Gwneud adeiladau'n hygyrch
Cafodd cydraddoldeb mynediad i adeiladau cyhoeddus, siopau a mannau gwaith ei wneud yn gyfraith yn y Deyrnas Unedig yn Neddf Cydraddoldeb 2010, sy'n sicrhau cysondeb yn yr hyn mae angen i gyflogwyr a gweithwyr ei wneud i sicrhau bod eu man gwaith yn amgylchedd teg.
Bydd timau rheoli adeiladu'n gwirio ac yn cymeradwyo cynlluniau, lluniadau a manylebau i helpu i wneud yn siŵr bod rhai mathau penodol o adeilad yn hygyrch i bawb beth bynnag eu hoed neu eu galluoedd. Mae nodweddion hygyrchedd yn cynnwys:
- Rampiau
- Lifftiau a chyhoeddiadau mewn lifftiau
- Drysau awtomatig
- Cyrbiau is
- Ystafelloedd a thoiledau hygyrch
8. Sicrhau bod meysydd chwaraeon, stadia a mannau cyhoeddus yn ddiogel i dyrfaoedd
Mae digwyddiadau mewn meysydd chwaraeon a stadia'n denu tyrfaoedd mawr, ac mae timau rheoli adeiladu'n gwneud eu rhan drwy orfodi argymhellion Canllawiau'r Swyddfa Gartref i Ddiogelwch mewn Meysydd Chwaraeon er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd. Bydd timau rheoli adeiladu'n archwilio lleoliadau ac yn rhoi arweiniad ynglŷn â nifer o feysydd fel:
- sefydlogrwydd adeileddol
- rheoli tyrfaoedd
- uchafswm nifer y bobl sy'n gallu bod yno'n ddiogel
- diogelwch tân
- ffyrdd allan a ffyrdd o ddianc
- gweithdrefnau argyfwng
- atalfeydd
- darpariaeth feddygol a chymorth cyntaf
- cyfleusterau i bobl anabl
9. Amddiffyn y cyhoedd rhag adeileddau peryglus
Os bydd syrfewyr rheoli adeiladu'n derbyn adroddiad am adeilad neu adeiledd peryglus, byddan nhw'n ymweld â'r safle i archwilio a chynghori ynghylch beth i'w wneud i gael gwared ar unrhyw berygl uniongyrchol a helpu i ddiogelu'r cyhoedd. Bydd y tîm rheoli adeiladu'n cysylltu â'r gwasanaethau argyfwng i sicrhau diogelwch bob amser.
Gall y syrfëwr ofyn i berchennog adeilad wneud pa bynnag waith sydd ei angen i wneud adeilad yn ddiogel neu, os bydd angen, cyflogi contractwr i wneud y gwaith sydd ei angen. Mewn achosion eithafol, efallai y caiff yr adeilad peryglus ei ddymchwel.
Gallwch chi ddysgu mwy am adeileddau peryglus a gweld enghreifftiau go iawn mae ein timau rheoli adeiladu lleol wedi gweithio arnynt.
10. Helpu i gadw ansawdd adeiladu'n uchel
Mae syrfewyr rheoli adeiladu'n helpu i gadw safonau adeiladu'n uchel drwy gynnal gwiriadau annibynnol ar adegau allweddol yn ystod prosiect adeiladu.
Maen nhw hefyd yn helpu perchenogion tai, adeiladwyr, contractwyr a phawb arall sy'n gysylltiedig â phrosiect adeiladu i sicrhau'r diogelwch, y cynwysoldeb a'r perfformiad tymor hir sy'n ofynnol mewn eiddo sydd wedi'i adeiladu at safon uchel.
Angen cymorth i ddechrau ar eich prosiect adeiladu?
Gallwch chi edrych ar ein hadnoddau i'ch rhoi chi ar ben ffordd