Do I need building regulations approval for work on my basement?
Weithiau, does dim lle i wneud gwaith adeiladu uwchlaw'r ddaear, felly mae'n eithaf cyffredin i bobl sy'n byw mewn dinasoedd ystyried buddsoddi mewn datblygu islawr i greu mwy o le i fyw.
Mae angen ystyried rhai materion adeiladu allweddol i sicrhau bod isloriau wedi'u dylunio a'u hadeiladu'n briodol – dŵr yn llifo i mewn a sefydlogrwydd adeileddol yr uwchadeiledd presennol yw'r prif bryderon ac mae'n hollbwysig bod y gwaith hwn yn cael ei wneud yn iawn oherwydd bydd unrhyw fethiannau'n ddrud ac yn anodd iawn i'w cywiro'n ddiweddarach.
Mae'r rheoliadau adeiladu'n berthnasol wrth adeiladu neu ailwampio islawr, felly mae hi'n bwysig cael cymorth gan weithwyr proffesiynol i asesu pethau fel daeareg a hydroleg (daear a dŵr) y safle, cynllun y sylfeini a diddosi. Ar gyfer eich prosiect penodol chi, mae'n well cysylltu â'ch tîm rheoli adeiladu lleol cyn dechrau'r gwaith er mwyn iddyn nhw roi cyngor ac arweiniad priodol i chi i wneud yn siŵr bod yr adeiledd yn ddiogel ac yn addas i'r diben. Byddan nhw'n archwilio agweddau fel:
- awyru
- trydan
- diangfeydd tân
- gwrthleithder.
Hefyd, mae'n bosibl y bydd angen gwaith ar y sylfeini a thanategion ac os ydych chi'n rhannu waliau â chymdogion bydd rhaid i chi feddwl am Ddeddf Waliau Cydrannol 1996 sy'n ymdrin â sut i drin anghydfodau ynglŷn â waliau cydrannol, waliau ffiniau a chloddiadau yn agos at adeiladau cyfagos.
I gael mwy o wybodaeth dechnegol am y math hwn o brosiect, gallwch chi ddarllen ein canllawiau am ddim ynglŷn â dylunio ac adeiladu isloriau.
Cymorth gan eich tîm rheoli adeiladu lleol
Hoffech chi wybod mwy am weithio gydag isloriau? Darllenwch ymlaen...
- Sut i wneud pethau'n iawn: Gwaith islawr sy'n osgoi dymchwel y tŷ
- Diddosi islawr a sut i gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu
- Sut i wneud pethau'n iawn: gweithio ar wal gydrannol neu o'i chwmpas