Dogfennau Cymeradwy a chanllawiau technegol Lloegr
Mae'r Rheoliadau Adeiladu'n bodoli i sicrhau iechyd a diogelwch pobl ym mhob math o adeiladau, ac o'u cwmpas. Maent hefyd yn darparu ar gyfer cadwraeth egni mewn adeiladau, eu diogelwch, a mynediad iddynt.
Mae'r Rheoliadau'n cynnwys gofynion sylfaenol i sicrhau bod ein hadeiladau'n cydymffurfio.
Mae'r safonau gofynnol wedi'u trefnu ar ffurf gofynion A i Q, a phob rhan yn cyfeirio at agwedd wahanol ar waith (e.e. adeiledd, diogelwch tân, awyru ac ati), ac mae gan bob un ei Dogfen Gymeradwy sy'n egluro sut i fodloni'r Rheoliadau.