Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu ar gyfer gwaith trydanol?
Eich cyfrifoldebau fel perchennog ty
Oeddech chi'n gwybod mai eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod unrhyw osodiad trydanol yn eich cartref naill ai'n cael ei gwblhau gan drydanwr sydd wedi'i gofrestru â chynllun personau cymwys, neu'n cael ei archwilio gan un?
Dan Ran P y rheoliadau adeiladu, dylid archwilio ac ardystio gwaith DIY a gosodiadau trydanol sy'n cael eu gwneud gan grefftwyr heb eu cofrestru. Fel perchennog yr eiddo, chi sy'n gyfrifol yn y pen draw am sicrhau bod gwaith trydanol yn cydymffurfio â'r rheolau.
Nid yw'r rheoliadau'n eich atal rhag gwneud eich gwaith eich hun na defnyddio crefftwr heb ei gofrestru, ond mae angen i chi wneud Cais Rheoliadau Adeiladu neu sicrhau bod aelod o gynllun personau cymwys trydanol yn gwirio'r gwaith ac yn rhoi'r hysbysiad a'r dystysgrif. work and electrical installation work carried out by non-registered traders should be checked and certified. As the property owner, you’re ultimately responsible for ensuring electrical work complies with the rules.
Nid yw'r rheoliadau'n eich atal rhag gwneud eich gwaith eich hun na defnyddio crefftwr heb ei gofrestru, ond mae angen i chi wneud Cais Rheoliadau Adeiladu neu sicrhau bod aelod o gynllun personau cymwys trydanol yn gwirio'r gwaith ac yn rhoi'r hysbysiad a'r dystysgrif.
Mae'n haws ac yn fwy diogel os ydych yn defnyddio trydanwr sydd wedi'i gofrestru â chynllun personau cymwys sydd wedi'i awdurdodi gan y llywodraeth, oherwydd yna efallai na fydd angen i chi wneud cais i'ch awdurdod lleol gan y bydd y trydanwr yn gallu gwneud hyn.
Dolenni defnyddiol
-
Dod o hyd i drydanwr cofrestredig - Cofrestr o drydanwyr sy'n perthyn i'r gwahanol gynlluniau personau cymwys http://www.electricalcompetentperson.co.uk/
-
Arweiniad cyffredinol - Cyngor, arweiniad a gwybodaeth gyffredinol mewn fformatau hawdd eu deall http://www.electricalsafetyfirst.org.uk/guides-and-advice/
- Eich tîm rheoli adeiladu lleol - Offeryn chwilio cod post di-dâl i ddod o hyd i dîm rheoli adeiladu eich cyngor: http://www.labc.co.uk/our-services/find-your-local-council
Mae tîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol ar gael i helpu unrhyw bryd. I fod yn ddiogel, siaradwch â hwy am eich prosiect cyn iddo ddechrau.