Prentisiaethau rheoli adeiladu'r LABC
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am brentisiaethau rheoli adeiladu awdurdodau lleol. Yma, cewch chi wybod beth mae syrfewyr rheoli adeiladu'n ei wneud, beth yw gofynion mynediad y brentisiaeth, gwybodaeth am gymwysterau rheoli adeiladu, a llawer mwy.
Yn gyntaf, beth yn union mae syrfewyr rheoli adeiladu'n ei wneud?
Fel un o syrfewyr rheoli adeiladu'r LABC, byddwch chi'n cael eich cyflogi gan awdurdod lleol i orfodi'r Ddeddf Adeiladu a'r Rheoliadau Adeiladu. Yn nodweddiadol, byddwch chi'n gweithio fel rhan o dîm sy'n cynnwys gweinyddwyr cymorth technegol a syrfewyr eraill sy'n amrywio o ran arbenigedd a phrofiad, ac fel rheol yn atebol i reolwr rheoli adeiladu.
Fel rhan o'ch gwaith, byddwch chi'n darparu gwasanaeth trydydd parti diduedd, annibynnol ac atebol i ardystio bod gwaith adeiladu'n cydymffurfio â'r safonau gofynnol, sef y rhai a nodir yn y Rheoliadau Adeiladu.
Mae rheoli adeiladu'n wahanol i swyddogaethau arolygu eraill gan fod syrfewyr rheoliadau adeiladu, yn y bôn, yn gwneud gwaith gorfodi, i sicrhau cydymffurfiad â Deddf Adeiladu 1984.
Yn ogystal â thechnoleg adeiladu, mae ar syrfëwr rheoli adeiladu angen gwybodaeth ymarferol lawn am y Rheoliadau Adeiladu a deddfwriaeth gysylltiedig (a oedd mewn grym ar adeg gwneud y gwaith) mewn meysydd adeileddol, thermol, tân, acwsteg, awyru a dylunio cynhwysol.
Mae'r swyddogaeth yn golygu wynebu cleientiaid yn aml, felly bydd angen i chi allu cyfathrebu'n rhagorol, bod yn ddiplomataidd ac yn bendant, a gallu aros yn ddiduedd wrth ddefnyddio'r pwerau sydd gennych chi i erlyn os oes angen gwneud hynny i ddiogelu iechyd a diogelwch pobl, a'r amgylchedd ehangach.
Fideo: Peter Axford yn sôn am ei brentisiaeth rheoli adeiladu
Gwyliwch y fideo i weld Peter o Gyngor Bwrdeistref Warrington yn sôn am ei brofiad, ei waith o ddydd i ddydd a'r cymwysterau sy'n ei helpu i ddatblygu ei yrfa ym maes rheoli adeiladu.
Gradd Prentisiaeth - BSc (Anrhydedd) mewn Rheoli Adeiladu
Fel rheol, bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd C neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg neu brentisiaeth Lefel 3 mewn disgyblaeth yn ymwneud ag adeiladu neu eiddo.
Ariennir y BSc (Anrhydedd) mewn Rheoli Adeiladu (Gradd Prentisiaeth) gan yr Ardoll Prentisiaethau fel rhan o'r Safon Syrfewyr Rheoli Adeiladu a gaiff ei chadarnhau gan y Sefydliad Prentisiaethau yn gynnar yn 2019.
Darperir a dyfernir y Radd BSc (Anrhydedd) mewn Rheoli Adeiladu gan ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth. Mae'r rhaglen gradd prentisiaeth yn darparu gwybodaeth ddigon dwfn ac eang i weithwyr awdurdodau lleol i allu bod yn syrfewyr rheoli adeiladu cymwys i'r awdurdod lleol.
Ar ôl cwblhau'r radd prentisiaeth lefel 6 pedair mlynedd, 360 credyd, byddwch chi'n cael BSc (Anrhydedd) mewn Rheoli Adeiladu.
Mae canllawiau i gyflogwyr awdurdodau lleol ar gael yma
Mae mwy o wybodaeth am gymwysterau rheoli adeiladu ar gael yma
Sut i gofrestru eich diddordeb
Cliciwch y ddolen isod a llenwch y ffurflen i naill ai gofrestru eich diddordeb neu ofyn am fwy o wybodaeth am gymwysterau neu brentisiaethau rheoli adeiladu.
Byddwn ni'n eich diweddaru chi'n rheolaidd drwy e-bost a drwy ddiweddaru'r dudalen we hon. Yn y cyfamser i gael mwy o wybodaeth, help, ac arweiniad cysylltwch â'r tîm dysgu a datblygu ar 020 7091 6860 neu drwy anfon e-bost i learning@labc.co.uk.
Hadnoddau
- Gwybodaeth gyffredinol am yr ardoll prentisiaethau
- Rheolau a chanllawiau i gyflogwyr
- Gwybodaeth ynglŷn â sut mae angen talu'r ardoll prentisiaethau
- Amcangyfrif eich cyllid ar gyfer prentisiaethau
- Recriwtio prentis