Beth yw’r gwahaniaeth rhwng caniatâd cynllunio a rheoliadau adeiladu?
Mae'r rheoliadau adeiladu yn gosod safonau ar gyfer dylunio ac adeiladu adeiladau i sicrhau diogelwch ac iechyd pobl sydd yn yr adeiladau hynny neu o’u cwmpas nhw. Maen nhw hefyd yn cynnwys gofynion i sicrhau bod tanwydd a phŵer yn cael eu harbed a bod cyfleusterau’n cael eu darparu i bobl, gan gynnwys pobl ag anableddau, i gael mynediad i adeiladau a symud o gwmpas y tu mewn. Gwylio ein fideo byr a darllen mwy...
Rhagor o wybodaeth
Mae cynllunio’n ymwneud â sut caiff ein trefi, ein dinasoedd a’n cefn gwlad eu datblygu. Mae hyn yn cynnwys ymddangosiad adeiladau, defnyddio tir ac ystyriaethau tirlunio, mynediad i briffyrdd ac effaith y datblygiad ar yr amgylchedd yn gyffredinol.
Ar gyfer llawer o fathau o waith adeiladu, bydd angen caniatâd ar wahân i’r ddau. Ar gyfer gwaith adeiladu arall, megis newidiadau mewnol, mae’n debygol y bydd angen cymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu, ond efallai na fydd angen caniatâd Cynllunio. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, dylech gysylltu â’ch Awdurdod Cynllunio a’ch tîm Rheolaethi Adeiladu lleol drwy chwilio am y cod post.