Pa mor hir mae’n ei gymryd i brosesu cais?
Ar gyfer cais drwy Hysbysiad Adeiladu, nid oes cynlluniau manwl i’w harchwilio a’u cymeradwyo felly cewch ddechrau’r gwaith cyn gynted â bod yr hysbysiad wedi’i dderbyn – fel rheol o fewn 48 awr. Gyda chais Cynlluniau Llawn, rhaid i’r cynlluniau gael eu harchwilio’n drwyadl cyn iddynt gael eu cymeradwyo. Ac mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i gyngor roi penderfyniad am gais o fewn pum wythnos ar ôl ei gael (oni bai bod hyn yn cael ei ymestyn gyda’ch caniatâd ysgrifenedig chi), ond mae fel arfer yn cymryd llawer llai o amser na hyn.
Mae cymeradwyaeth i gynlluniau adeiladu’n para tair blynedd ac os na ddechreuwch y gwaith yn y cyfnod hwnnw, efallai y gwnaiff eich cyngor gyflwyno hysbysiad i chi’n datgan bod eich cynlluniau’n “ddieffaith” – sy’n golygu y bydd angen i chi gyflwyno cais newydd.