Rydw i'n adeiladu addasiad atig - oes gennych chi gyngor Rheoliadau Adeiladu?
Trosi atigau
Mae addasu’r lle o dan do eich tŷ’n gallu bod yn ffordd gost-effeithiol o greu mwy o ystafelloedd gwely neu fannau byw. Ond nid yw pob atig yn addas i’w haddasu. Yn gyntaf, dylech wirio’r canlynol:
- Uchder: A oes digon o le yn eich atig i sefyll yn gyfforddus? Er mwyn i’ch atig gael ei dosbarthu’n ystafell wely ar ôl ei haddasu, yn ddelfrydol bydd angen o leiaf 2m o uchder – ond cofiwch y bydd hyn ar ôl gosod lloriau, trawstiau a phaneli newydd, sy’n gallu cymryd hyd at 300mm o’r uchder.
- Maint y llawr: A yw arwynebedd y llawr yn ddigon mawr i wneud ystafell ddefnyddiol?
- Cyfleustodau: A fyddai angen symud unrhyw simneiau, tanciau, pibelli neu wasanaethau i greu lle defnyddiol?
- Os yw eich atig heb ei haddasu’n rhy isel, neu’n rhy fach neu bod gormod o gyfleustodau ynddi, efallai y gallwch chi ddal i’w haddasu, ond bydd yn llawer mwy cymhleth (a drud). A dylech siarad â’ch tîm rheolaethi adeiladu lleol i gael cyngor.
Cael cyngor proffesiynol
Mae addasu unrhyw atig yn brosiect cymhleth, felly dylech ofyn i bensaer neu ddylunydd adeiladau lunio cynlluniau proffesiynol a gofyn i dîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol eu cymeradwyo cyn dechrau’r gwaith – efallai y bydd angen Caniatâd Cynllunio hefyd felly mae’n well i chi holi Adran Gynllunio eich Awdurdod Lleol. Dylai’r cynlluniau gynnwys y canlynol:
- To – adeiledd (llwyth, cynheiliaid a thrawstiau), defnyddiau, inswleiddio ac awyru
- Mynediad – grisiau (ongl, lled ac uchder), dihangfa dân, rheiliau llaw a chanllawiau grisiau
- Lloriau a waliau – adeiledd a chryfhau, inswleiddio ac ynysu rhag sain
- Offer trydanol, pŵer a gwresogi
- Ffenestri a drysau
- Diogelwch tân – diangfeydd a chanfodyddion mwg.
- Ystafelloedd ymolchi – cysylltiadau â’r cyflenwad dŵr a’r draeniau, awyru
Gwylio ein fideo ar addasu atig:
Ffenestri to
Mae’r rhain yn aml yn gallu bod yn ffordd hwylus o ddarparu golau yn eich atig os oes cyfyngiadau cynllunio ar faint neu nifer y dormerau. Mae llawer o frandiau masnachol ar gael, gan amrywio o ffenestri i ddianc drwyddynt mewn tân i ffenestri sy’n rhoi mynediad i falconïau agored. Os ydych yn bwriadu cael balconi, rhaid i chi sicrhau bod ganddo rywbeth o gwmpas y perimedr i amddiffyn pobl rhag disgyn a bod y deciau wedi’u hadeiladu’n briodol i alluogi pobl i sefyll arnynt.
Mannau storio
Gallwch ddefnyddio eich atig bresennol i storio eitemau cartref ysgafn heb gael cymeradwyaeth rheoli adeiladu os ydych yn defnyddio ysgol sy’n plygu i fynd i’r atig. Mae’n arfer da gosod byrddau rhydd i ddarparu arwyneb gwastad i’r eitemau. Yn gyffredinol, nid yw trawstiau nenfwd wedi’u cynllunio i ddal llwythi trwm. Felly, os ydych yn bwriadu defnyddio eich atig i storio eitemau trwm neu osod llawr parhaol neu risiau go iawn, efallai y bydd angen i chi wneud cais i’ch cyngor lleol am gymeradwyaeth rheolaethi adeiladu.