A oes angen rheoliadau adeiladu ar gyfer fy estyniad?
Gwyliwch ein fideo: Astudiaeth achos rheoli adeilad o adeiladu estyniad
A oes angen rheoliadau adeiladu ar gyfer fy estyniad?
Bydd estyniad yn cael effaith fawr ar eich cartref, eich gardd a’ch cymdogion. Wrth lunio cynlluniau, bydd angen i chi edrych ar sut byddai’n effeithio ar bethau fel mynediad i’ch cartref a’ch gardd, symudiadau yn eich cartref ac o’i gwmpas a’r golau naturiol mewn ystafelloedd sy’n bodoli eisoes. Bydd angen i chi ystyried hefyd pa ddefnyddiau adeiladu i’w defnyddio – yn enwedig os cafodd eich cartref ei adeiladu gan ddefnyddio technegau neu ddefnyddiau adeiladu anarferol. Ar ôl i chi benderfynu bod eich cartref yn addas am estyniad, dylech ofyn i bensaer neu ddylunydd adeiladau lunio cynlluniau a gofyn i dîm rheolaethi adeiladu eich cyngor lleol eu cymeradwyo cyn dechrau’r gwaith.
Dylai’r cynlluniau a’r manylion gynnwys
- Sylfeini – amodau’r tir, dyfnder, atal lleithder ac amddiffyn rhag radon
- lloriau a waliau – adeiledd a chryfhau, inswleiddio ac ynysu rhag sain
- Toeau – gwastad neu ar ongl, inswleiddio, cynheiliaid a thrawstiau, uchder
- Draenio – cysylltiadau â draeniau sy’n bodoli, tyllau archwilio a chyflenwad dŵr Offer trydanol, pŵer a gwresogi Ffenestri, drysau ac awyru a hygyrchedd i bobl anabl
- Diogelwch tân – diangfeydd a chanfyddwyr mwg. Hefyd, os cynllunir i estyniad fod yn ddau lawr neu fwy, bydd angen i’r cynlluniau gynnwys y canlynol:
- Grisiau, rheiliau llaw a chanllawiau grisiau
- Ynysu rhag sain – yn enwedig mewn unrhyw lety cysgu
- Diangfeydd tân o loriau uchaf.
Oes angen Caniatâd Cynllunio ar gyfer fy estyniad?
Mae'r ateb ar wefan y Porth Cynllunio.
Read our homeowners' frequently asked questions