Oes angen cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu i addasu fy garej?
Gwylio'r fideo hwn am addasu garejis a'r rheoliadau adeiladu
Pethau i'w hystyried wrth addasu garej
Fel estyniadau i’r cartref, mae addasu garej i wneud lle i fyw ynddo’n brosiect adeiladu cymhleth a dylech chi geisio cyngor proffesiynol gan bensaer neu gontractwr adeiladu a chysylltu â thîm rheoli adeiladu eich cyngor lleol cyn dechrau. Bydd angen rhoi sylw penodol i’r canlynol wrth lunio cynlluniau:
- Sylfeini – yn aml, dydy sylfeini garej ddim yn ddigon dwfn i ddal pwysau ychwanegol lloriau, waliau a nenfydau felly bydd angen eu profi nhw i weld a oes angen eu cryfhau nhw. Llenwi agoriad y drws – dylai hyn gynnwys sylfeini addas, cwrs lleithder, ynysu rhag y tywydd ac inswleiddio.
- Cryfder adeileddol – yn aml, bydd waliau garejis yn un haen o frics ac efallai na fydd hyn yn addas i ddal llawr ychwanegol, to newydd neu fwy o inswleiddio.
- Ynysu rhag y tywydd ac inswleiddio – bydd angen ynysu’r garej rhag y tywydd a’i hinswleiddio hi er mwyn ei defnyddio hi fel lle i fyw ynddo.
- Ffenestri ac awyru – bydd angen i ffenestri fodloni safonau gofynnol effeithlonrwydd ynni a bydd angen awyru digonol. Gwyliwch ein fideo am addasu garejis i gael gwybod mwy.