Hyfforddiant mewnol
Gallwn ni deilwra unrhyw un o'n cyrsiau a'n gweithdai i fodloni union anghenion eich sefydliad a darparu hyfforddiant yn fewnol ar eich safle chi.
Rydyn ni wedi darparu hyfforddiant fel hyn ers blynyddoedd i lawer o bobl eraill sy'n teimlo ein bod ni'n rhoi gwerth gwych am arian - diwrnod llawn am gyn lleied â £995 + TAW.
Pam gwario mwy na'r angen i anfon cynrychiolwyr i gyrsiau allanol, pan mae'r cwrs yn gallu dod atoch chi?
Roedd y cyflwyniad yn rhagorol ac roedd y staff rheoli adeiladu o bob gradd a oedd yn bresennol yn ei werthfawrogi’n fawr.
Cyngor Sir Durham, ynglŷn â’u hyfforddiant mewnol ar Adeileddau Peryglus a Dymchwel
Sut mae hyfforddiant mewnol yn gweithio
Mae hyfforddiant mewnol yn ddewis arall cyfleus a chost-effeithiol yn lle cyrsiau hyfforddiant cyhoeddus yr LABC. Mae’n digwydd yn eich lleoliad chi, ac rydych chi'n gwahodd pobl eraill i fod yn bresennol ac yn rhannu’r costau. Yr LABC sy'n darparu’r hyfforddwr, y cynnwys, y deunydd gwaith, y taflenni a’r tystysgrifau DPP. Chi sy’n trefnu’r archebion ac yn darparu lleoliad addas, arlwyo a chyfarpar.
Rhaid i’r ystafelloedd fod yn briodol i hyfforddiant manwl ffurfiol â byrddau/cadeiriau cyfforddus, preifatrwydd, distawrwydd, taflunydd a sgrin. Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n addas i hyd at 50 o gynadleddwyr. Efallai y bydd uchafswm rhai cyrsiau gweithdy’n is.
Cost
Gall eich sefydliad ddefnyddio hyfforddiant mewnol i leihau'r gost y pen am hyfforddi eich staff, sy'n golygu y gellir trefnu hyfforddiant o safon uchel ac arbed hyd at 70%.
Hefyd, fydd eich staff ddim yn wynebu anghyfleustra a chost ychwanegol gorfod teithio eu hunain.
Darperir pob cwrs safonol diwrnod llawn a hanner diwrnod am gost hyfforddiant mewnol o ddim ond £995 + TAW. Dydy’r pris hwn ddim yn cynnwys costau teithio a llety hyfforddwyr; byddwch chi'n cael anfoneb am y rhain ar ôl y digwyddiad.
Rhagor o wybodaeth
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch ebost i learning@labc.co.uk neu ffoniwch ni ar 020 7091 6860.