Sefydliadau rydyn ni'n eu cefnogi
Mae gan yr LABC gysylltiadau â llawer o sefydliadau ym maes adeiladu. Dyma rai ohonynt:
- The Association for Specialist Fire Protection (ASFP) – Mae'r Gymdeithas Amddiffyniadau Arbenigol rhag Tân (ASFP) wedi ymrwymo i amddiffyn bywyd, eiddo, yr amgylchedd a'n treftadaeth ac maen nhw'n hybu gwelliannau parhaus ym mhob agwedd ar amddiffyn goddefol rhag tân.
- The Building Control Alliance yn grŵp unigryw i'r diwydiant sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob sefydliad sy'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli adeiladu yng Nghymru a Lloegr.
- The Building Research Establishment (BRE) Y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) Mae cwmnïau'r Grŵp BRE yn darparu ystod gyflawn o wasanaethau cynghori, profi, ardystio, ymchwil wedi'i gomisiynu a hyfforddiant i ymwneud â phob agwedd ar yr amgylchedd adeiledig a diwydiannau cysylltiedig.
- Mae Consortiwm Rheoli Adeiladu Ewrop (CEBC) yn hybu buddiannau rheoli adeiladu neu gorff llywodraeth, ac mae'n ymwneud â datblygu deddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch, hygyrchedd, cadwraeth egni a chynaliadwyedd o fewn yr amgylchedd adeiledig neu asiantaeth gymaradwy.
- The Chartered Institute of Architectural Technologists (CIAT) iyw'r prif gorff cymhwyso ar gyfer Technoleg Bensaernïol ac mae'n cynrychioli pobl sy'n gweithio ac yn astudio o fewn y ddisgyblaeth.
- The Chartered Institute of Building (CIOB) – corff proffesiynol mwyaf a mwyaf dylanwadol y byd ar gyfer rheoli ac arwain adeiladu.
- The Considerate Constructors Scheme – Dechreuwyd y sefydliad annibynnol dielw hwn yn 1997 gan y diwydiant er mwyn gwella ei ddelwedd.
- The Consortium of European Building Control (CEBC) – mae'r consortiwm yn hybu buddiannau rheoli adeiladu neu gorff llywodraeth, ac mae'n ymwneud â datblygu deddfwriaeth sy'n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch, hygyrchedd, cadwraeth egni a chynaliadwyedd o fewn yr amgylchedd adeiledig neu asiantaeth gymaradwy.
- Construction Industry Training Board (CITB) – Helpu i leihau bylchau sgiliau a chynyddu cynhyrchiant yn y diwydiant adeiladu. Rydyn ni'n gweithio gyda'r CITB i ddarparu rhaglen genedlaethol o sioeau teithiol technegol sy'n cael eu cynnal mewn digwyddiadau wyneb i wyneb a drwy gyfrwng dysgu ar-lein.
- The Construction Industry Council (CIC) – y fforwm sy'n cynrychioli'r cyrff proffesiynol, y sefydliadau ymchwil a'r cymdeithasau busnes arbenigol yn y diwydiant adeiladu.
- The Fenestration Self-Assessment Scheme (FENSA) – Y Cynllun Hunanasesu Ffenestru (FENSA) yw'r Cynllun Unigolion Cymwys cyntaf, a mwyaf adnabyddus, ar gyfer y diwydiant gosod ffenestri a drysau yng Nghymru a Lloegr. Maen nhw'n sicrhau bod gwaith yn cydymffurfio â rheoliadau adeiladu, yn effeithlon o ran egni, ac wedi'i gofrestru â'r cyngor lleol.
- The Fire Sector Federation (FSF) yn sefydliad anllywodraethol dielw sydd wedi'i sefydlu i weithredu fel fforwm i drafod materion yn ymwneud â thân, gan ddod â chynrychiolwyr at ei gilydd o amrywiaeth o randdeiliaid sy'n gwneud Sector Tân y DU.
- The Gas Safe Register – Y Gofrestr Diogelwch Nwy yw'r unig gorff swyddogol cofrestru nwy ar gyfer busnesau a pheirianwyr nwy yn y Deyrnas Unedig, Ynys Manaw a Guernsey. Mae'r gyfraith yn mynnu bod pob busnes nwy ar y Gofrestr Diogelwch Nwy.
- The Gas Safety Trust yn arfer gweithredu o dan yr enw Ymddiriedolaeth CORGI hyd at fis Mawrth 2010. Cafodd y GST ei sefydlu'n wreiddiol yn 2005 fel corff elusennol cofrestredig, ac erbyn hyn hon yw prif elusen diogelwch nwy y DU. Ei hamcanion allweddol yw gwneud mwy i wella diogelwch nwy/tanwyddau ffosil i'r cyhoedd a'r diwydiant ledled y DU a lleihau achosion o farwolaeth ac anafiadau difrifol o ganlyniad i ddod i gysylltiad â charbon monocsid (CO).
- The Good Homes Alliance (GHA) yn grŵp o ddatblygwyr tai, gweithwyr proffesiynol ym maes adeiladu a chefnogwyr eraill i'r diwydiant, a'u nod yw trawsnewid sector tai'r DU i sicrhau ei fod yn creu ac yn cynnal Cartrefi Da i bawb.
- The Heating Equipment Testing and Approval Scheme (HETAS) – Y Cynllun Profi a Chymeradwyo Offer Gwresogi (HETAS) yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n gweithio dros ddiogelwch defnyddwyr a buddiannau'r cyhoedd yn fwy cyffredinol o ran defnyddio biomas a thanwyddau solet eraill yn ddiogel, yn effeithlon ac yn amgylcheddol gyfrifol.
- The Institute of Clerks of Works and Construction Inspectorate of Great Britain (ICWCI) – Yr ICWCI yw'r corff proffesiynol sy'n cefnogi gwaith adeiladu o safon uchel drwy arolygu.
- The National Association of Professional Inspectors and Testers (NAPIT) – Mae Cymdeithas Genedlaethol yr Arolygwyr a'r Profwyr Proffesiynol (NAPIT) yn darparu gwasanaethau ardystio i gontractwyr yn y sectorau gwasanaethau adeiladu a ffabrig adeiladau.
- The National Fire Chiefs Council (NFCC) – Cyngor Cenedlaethol y Prif Swyddogion Tân (NFCC) yw llais proffesiynol gwasanaeth tân ac achub y Deyrnas Unedig, ac mae'n arwain gwelliannau a datblygiadau ledled y Deyrnas Unedig.
- The National Federation of Roofing Contractors (NFRC) – Ffederasiwn Cenedlaethol y Contractwyr Toi (NFRC) yw cymdeithas fasnach doi fwyaf y Deyrnas Unedig; maen nhw'n cynrychioli dros 70% o'r diwydiant toi.
- The National Home Improvement Council (NHIC) yn darparu ffynhonnell bwysig o gyngor a gwybodaeth ddiduedd am bob math o welliannau cartref, gan gynnwys technolegau egni adnewyddadwy.
- The National Inspection Council for Electrical Installation Contracting (NICEIC) – Mae'r Cyngor Archwilio Cenedlaethol ar gyfer Contractio Gosodiadau Trydanol (NICEIC) yn darparu gwasanaethau asesu ac ardystio i gontractwyr sy'n gweithio ar draws y sectorau gwasanaethau adeiladu gan gynnwys trydanwyr, gosodwyr ynni adnewyddadwy, plymwyr a pheirianwyr nwy a gwresogi.
- TrustMark - yw'r unig gynllun 'dod o hyd i grefftwyr' sydd wedi'i ardystio gan y Llywodraeth. Fel menter gymdeithasol ddielw, maen nhw'n ymfalchïo mewn parhau i fuddsoddi yn TrustMark, gan gynorthwyo Gweithredwyr y Cynllun a'r Cwmnïau Cofrestredig i amddiffyn defnyddwyr yn well.
- The UK Green Building Council (UK-GBC) yn elusen a sefydliad aelodaeth sy'n ymgyrchu dros amgylchedd adeiledig cynaliadwy. Mae'r UK-GBC yn hwyluso deialog rhwng y diwydiant a'r Llywodraeth i hybu dulliau mwy gwyrdd yn y sector adeiladu.
Five reasons why choosing local authority building control offers peace of mind.