Felly sut mae’r broses gymeradwyo’n gweithio?
Pan fydd tîm rheolaethi adeiladu eich cyngor lleol yn cymeradwyo eich cais, fel rheol cewch ‘Gynllun Gwasanaeth Arolygu’ cyn i chi ddechrau’r gwaith. Mae hwn yn amlinellu’r camau gwaith y bydd angen eu harolygu. Bydd yn amrywio gan ddibynnu ar faint a chymhlethdod eich prosiect, oed eich cartref, y math o adeiladwaith, amodau’r tir a phrofiad eich adeiladwr.
Bydd angen i chi hysbysu tîm rheolaethi adeiladu eich cyngor lleol pan fyddwch yn dechrau a phan fyddwch yn cyrraedd y camau sydd wedi’u hamlinellu yn eich Cynllun Gwasanaeth Arolygu er mwyn i’r syrfewyr allu ymweld â’r safle.
Cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi’i gwblhau a bod tîm rheolaethi adeiladu eich cyngor lleol yn fodlon ag ef, cewch ‘Dystysgrif Cwblhau’ i ddangos bod yr holl waith yn cyrraedd y safon.