Beth yw'r Rheoliadau Adeiladu?
Mae'r Rheoliadau Adeiladu wedi'u diffinio gan lywodraethau Cymru a Lloegr.
Yn gyffredinol, maen nhw'n sicrhau y bydd adeiladau newydd, addasiadau, adnewyddiadau ac estyniadau (domestig neu fasnachol) yn ddiogel, yn iach ac yn cyflawni eu diben yn dda.
Mae'r rheoliadau manwl yn ymdrin â phynciau penodol gan gynnwys: uniondeb adeileddol, diogelwch tân, hygyrchedd, perfformiad egni, perfformiad acwstig, amddiffyn rhag disgyn, diogelwch trydan a nwy.
Maen nhw hefyd yn gosod safonau ar gyfer draenio, awyru, amddiffyn rhag i ddŵr lifo i mewn ac amddiffyn rhag halogiad gan gynnwys nwyon methan a radon.
Mae adnoddau technegol ac arbenigedd i helpu â'ch prosiectau adeiladu ac i gydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu ar gael ar ein tudalennau Canllawiau.