5 steps to building regulations approval
Are you a self-builder or planning on making improvements to a property? Follow these five steps to building regulations approval and getting that all-important completion certificate.
Mae pob tîm rheoli adeiladu awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr yn gweithio fel rhan o'r rhwydwaith rheoli adeiladu awdurdodau lleol, sef yr LABC.
Mae rhai'n gweithredu fel cynghorau unigol ac mae rhai'n gweithio mewn partneriaeth ag eraill. Maen nhw i gyd yn rhannu'r un ethos o fod yn ddiduedd, yn atebol ac yn dechnegol gyson.
Weithiau, efallai y bydd gan eich adeiladwr ei hoff syrfëwr, ond eich prosiect chi ydyw felly mae'n syniad da cael cyfarfod cyn ymgeisio â'ch tîm rheoli adeiladu lleol i drafod y prosiect ac unrhyw fanylion dylunio anghyffredin.
Find your local team here Gallwch chi ddod o hyd i'ch tîm lleol yma a chysylltu â nhw i gael gwybod beth fydd y costau tebygol.
Yna, yr unig beth y bydd angen i chi ei wneud yw cytuno ar bris yn seiliedig ar y gwahanol gamau y mae angen eu harchwilio.
Cyflwyno eich cais rheoli adeiladu
Gallwch chi ymgeisio i’ch tîm rheoli adeiladu lleol mewn un o ddwy ffordd:
a) Cais Cynlluniau Llawn: Ar gyfer y rhan fwyaf o'r ceisiadau hyn, bydd y tîm rheoli adeiladu'n archwilio’r cynlluniau ac yn eu 'cymeradwyo' nhw cyn i waith ddechrau. Bydd angen i chi gyflwyno'r holl luniadau, manylebau a, lle bo angen, cyfrifiadau ar gyfer yr adeiledd, thermol, defnyddio dŵr ac ati. Mae cyflwyno'r math hwn o gais yn lleihau'r risg o fynd yn groes i'r rheoliadau ac yn helpu i osgoi oediadau costus.
b) Hysbysiad Adeiladu: Mae’r cais yn cael ei 'dderbyn' pan mae'r rheoliadau adeiladu wedi cael eu bodloni ar y safle. Fodd bynnag, mae'r opsiwn hwn yn risg oherwydd does dim angen cynlluniau ac efallai y bydd angen addasu neu uwchraddio gwaith sydd wedi'i wneud er mwyn bodloni'r gofynion.
Felly os nad ydych chi'n siŵr, bydd y dewis Cynlluniau Llawn gyda chynllun cymeradwy yn rhoi sicrwydd i chi na fyddwch chi'n cymryd risg ar y safle.
Yna, rydych chi'n cyflwyno eich cynlluniau a'ch cyfrifiadau sy'n cael eu harchwilio'n llawn a'u cymeradwyo cyn dechrau'r gwaith fel y gallwch chi fod yn hyderus wrth gael dyfynbrisiau, penodi contractwyr ac archebu defnyddiau yn seiliedig ar gynllun rydych chi wedi cytuno arno heb broblemau annisgwyl.
Dechrau arni
Un peth allweddol i'w gofio yw mai cyfrifoldeb perchennog yr eiddo yw cydymffurfio â'r rheoliadau, y safonau a deddfwriaeth arall, felly os ydych chi'n hunanadeiladwr, eich cyfrifoldeb chi yw hyn!
Pa fath bynnag o gais rydych chi'n ei wneud, bydd syrfëwr rheoli adeiladu'n dod i archwilio’r gwaith ar wahanol adegau a rhoi cyngor ac arweiniad i’ch adeiladwr a thawelwch meddwl i chi.
Fel rheol, byddwch chi wedi cytuno ymlaen llaw ar y camau y bydd angen iddyn nhw eu gweld, ond pwrpas hyn fydd sicrhau bod y safonau gofynnol wedi cael eu bodloni.
Mae'n ddigon cyffredin i chi fod eisiau newid rhywbeth yn y cynlluniau cymeradwy, a bydd eich syrfëwr yn hapus i drafod y newidiadau hyn ac unrhyw oblygiadau mewn cyfarfod ar y safle.
Ymweliad y syrfëwr rheoli adeiladu
Mae'r math o bethau y bydd y syrfëwr adeiladu'n edrych arnyn nhw'n cynnwys:
- Sylfeini
- Tir a lloriau
- Gwrthleithder
- Adeiledd y to
- Draenio
- Trawstiau ac agoriadau adeileddol
- Atal tân
- Ynysu thermol
Yr ymweliad cwblhau!
Hwn yw'r ymweliad allweddol.
Prif bwrpas y cam hwn yw gwneud yn siŵr bod y tŷ yn bodloni’r amrywiol reoliadau adeiladu cyn iddo gael ei feddiannu a’i ddefnyddio.
Pan fydd y syrfëwr yn hapus â’r gwaith, bydd yn rhoi tystysgrif cwblhau i chi, yn ddi-dâl. Mae hon yn ddogfen bwysig sy’n cael ei defnyddio gan dwrneiod/asiantau chwilio personol pan fyddwch chi'n gwerthu’r eiddo a gan fenthycwyr morgeisi ac yswirwyr eiddo.
Nawr y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw camu'n ôl ac edmygu eich tŷ newydd/gwell...