Acoustic testing
LABC Acoustics offer a range of acoustic services including testing, consultancy, noise and vibration surveys and offer advice on noise and vibration complaints.
Profi, ymgynghori, arolygon sŵn a dirgrynu
Mae Acwsteg LABC yn cynnig gwasanaeth Profi Ynysu Sain Achrededig UKAS* fel sy’n ofynnol gan Ddogfen Gymeradwy E (2003) y Rheoliadau Adeiladu. Rydym hefyd yn gallu darparu gwasanaethau dylunio ac ymgynghori, arolwg sŵn a dirgrynu ynghyd â chyngor a chymorth i gael caniatâd cynllunio os yw sŵn a dirgrynu’n broblem; rydym wedi cynrychioli llawer o gleientiaid mewn ymchwiliadau cyhoeddus ac Apeliadau ac rydym yn arbenigo mewn cynnig cyngor tystion arbenigol mewn achosion ymgyfreitha.
Cwynion am sŵn a dirgrynu
Mae Acwsteg LABC yn gallu cynghori ynglŷn â niwsans sŵn naill ai o safbwynt yr achwynydd neu’r sawl sy’n achosi’r sŵn. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys:
- Mesur ac asesu sŵn yn erbyn y Safonau Prydeinig presennol BS4142
- Cynnig cyngor fel tystion arbenigol ynglŷn â lleihau a rheoli sŵn offer diwydiannol a masnachol
- Monitro sŵn cefndir a ffynonellau sŵn penodol yn hirdymor.
- Monitro triechelog o gyflymder gronynnau brig dirgryniad a gwerthoedd dos dirgryniad digwyddiad (VDV).
- Astudiaethau o effaith rheilffyrdd.
- Diflastod twmpathau buanedd (dirgryniad a sŵn mewn anheddau preswyl)
- Ymateb dynol i ddirgryniad: asesiadau’n unol â BS6472.
- Meini prawf difrod / ymateb adeiladau’n unol â BS7385.
- Astudiaethau o effaith dirgryniad yn unol â gofynion cynllunio
- Cyngor lliniaru dirgryniad ar gyfer materion dirgryniad a phroblemau sŵn wedi’i ailbelydru o osodiadau M ac E mewn adeiladau.
- Monitro sŵn a dirgrynu adeiladu a chytundebau adran 60.
- Monitro dirgryniad tonffurf llawn neu histogram (siart stribed).
- Monitro sŵn 24 awr gan gynnwys yr holl baramedrau ystadegol a seiliedig ar ynni (LA01, LA10, LA90, LAeq, SEL ac ati).
- Adroddiadau technegol i ddangos cydymffurfiad â chyfyngiadau sŵn a dirgrynu y cytunwyd arnynt (Adran 60, Cyfyngiadau Cynllunio ac ati).
- Rhagfynegi sŵn
Cysylltwch â ni ar 020 7091 6868 i ofyn am ddyfynbris neu i drafod eich datblygiad. Rydym yn wirioneddol gystadleuol, ac mae ein statws UKAS* yn sicrhau hyder yn y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu
*Noise.co.uk (UKAS 2694)