Privacy policy
Come from Inspection app? View app Privacy Policy here
Come from the SiteCam app? View app Privacy Policy here
This policy explains when and why we collect personal information on visitors to our website, how we use it, the conditions under which we may disclose it to others and how we keep it secure.
Any questions regarding this policy should be sent by email to info@labc.co.uk or in writing to LABC, 2a St George Wharf, Vauxhall, London, SW8 2LE.
Sut rydyn ni'n casglu gwybodaeth gennych chi?
Rydyn ni'n cael gwybodaeth wrth i chi ymweld â'n gwefan, er enghraifft, wrth i chi gofrestru, gwneud cais am wybodaeth, ymgeisio am ein gwobrau, neu ofyn am gael cylchlythyrau a dogfennau. Rydyn ni hefyd yn cael gwybodaeth gennych chi os ydych chi'n archebu neu'n mynychu cynhadledd, sioe deithiol neu ddigwyddiad arall, neu'n archebu gwasanaethau neu wybodaeth gan yr LABC mewn trafodyn ariannol.
Pam rydyn ni’n gwneud hyn?
Mae angen i ni gadw cofnod o'ch manylion cyswllt er mwyn rhoi gwybodaeth i chi am amrywiaeth o bethau gan gynnwys: gwybodaeth dechnegol a chyfarwyddyd am newidiadau i'r Rheoliadau Adeiladu, gwahoddiad i ddigwyddiadau technegol, datblygiad a dysgu proffesiynol parhaus, sioeau teithiol, ymchwil, astudiaethau achos, galluogi cynigion a rhoi dyddiadau ar gyfer Gwobrau'r LABC a rhoi mynediad at gynhyrchion a chynlluniau cofrestru gwasanaethau'r LABC.
Pa fath o wybodaeth sy'n cael ei chasglu gennych chi?
Bydd y wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu'n cynnwys eich enw, manylion eich cwmni, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad ebost a'ch rhif ffôn.
Rydyn ni'n defnyddio cwcis i olrhain ymweliadau â'n gwefan a thrywydd pobl o'i chwmpas hi. Dydyn ni ddim yn defnyddio hyn ar gyfer ymweliadau unigol, dim ond data cyfanredol o'r holl ymweliadau i'w defnyddio mewn adroddiadau dadansoddol.
Rydyn ni'n gofyn i chi gofrestru drwy ein gwefan i gael diweddariadau parhaus, gwybodaeth am ddatblygiadau technegol wrth iddyn nhw ddigwydd, gwahoddiadau a manylion digwyddiadau.
Os ydych chi'n talu am wasanaeth, yn cadw lle yn ein gwobrau, neu’n archebu cwrs neu gynhadledd, bydd ein proseswyr taliadau trydydd parti, SagePay, yn casglu gwybodaeth eich cerdyn. Mae SagePay yn arbenigo mewn dal a phrosesu trafodion cerdyn credyd/debyd, fel sydd wedi'i esbonio isod.
Pam mae eisiau eich gwybodaeth arnon ni?
Fel pob busnes, rydyn ni am allu cyfathrebu â phobl mewn busnesau eraill yn ein diwydiant.
Mae'r LABC yn cynhyrchu ymchwil, dadansoddiadau technegol, esboniadau o'r rheoliadau adeiladu a'r system rheoli adeiladu a sylwadau am newidiadau a datblygiadau i'r rheoliadau ac rydyn ni'n rhannu hyn â chwsmeriaid mewn Bwletinau, cylchlythyrau ac e-siots.
Mae'r LABC hefyd yn cynnal hyfforddiant, cynadleddau a sioeau teithiol technegol, yn cymryd rhan mewn arddangosiadau diwydiant ac yn cynnal cyfres o Wobrau Rhagoriaeth Adeiladu rhanbarthol yr LABC sy'n arwain at y Rownd Derfynol Fawr.
Rydyn ni'n cynnig cyfle i'n cwsmeriaid ymwneud â hyn i gyd. Drwy wirfoddoli eich manylion cyswllt a chofrestru â'r LABC, gallwn ni gynnig gwybodaeth a gwahoddiadau i chi.
Sut gallwn ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol
- Dim ond at y dibenion canlynol y byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol:
- Gweinyddu eich cyfrif, hynny yw ei sefydlu, gwneud yn siŵr ei fod yn gywir a chysylltu â chi o bryd i'w gilydd i sicrhau bod eich manylion yn gyfredol a'ch bod chi'n dymuno parhau.
- Cyflawni ein haddewidion i ddarparu gwasanaeth neu wybodaeth.
- Ceisio eich barn neu sylwadau am y gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu.
- Eich hysbysu chi am newidiadau i wasanaethau neu gynhyrchion rydych chi wedi dweud wrthyn ni bod gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw, ac unrhyw wasanaethau newydd neu gymaradwy sy'n debyg ac yn berthnasol.
- Hyrwyddo defnyddio ein gwasanaethau.
- Gweinyddu eich cynigion mewn cystadleuaeth neu ddigwyddiad gwobrau.
- Prosesu taliadau ac anfonebau gennych chi i ni. Mae hyn yn cynnwys anfon ebost, anfonebau, derbynebau neu gyfriflenni atoch chi a rhoi gwybod i chi os oes angen cerdyn credyd gwahanol neu gyfredol. Rydyn ni'n defnyddio SagePay i brosesu trafodion cerdyn credyd yn ddiogel, ac rydyn ni'n anfon gwybodaeth bilio at y trydydd partïon hynny i brosesu eich archebion a'ch taliadau cerdyn credyd.
- Anfon negeseuon rhybudd gwasanaeth atoch chi. Er enghraifft, efallai y byddwn ni'n rhoi gwybod i chi am newidiadau dros dro neu barhaol i'n gwasanaethau, fel toriadau a gynlluniwyd, fersiynau newydd, cynhyrchion newydd, rhybuddion camddefnyddio, a newidiadau i'n polisi preifatrwydd.
- Cyfathrebu â chi am eich cyfrif a darparu cymorth i gwsmeriaid.
- Sicrhau cydymffurfiad â'n telerau ac amodau a'r gyfraith berthnasol.
- Amddiffyn hawliau a diogelwch ein haelodau a thrydydd partïon, yn ogystal â ni ein hunain.
- Bodloni gofynion cyfreithiol fel cydymffurfio â chontractau, gorchmynion llys, ceisiadau darganfod dilys, gwyslythyrau dilys, a mecanweithiau cyfreithiol priodol eraill.
- Rhoi gwybodaeth i gynrychiolwyr a chynghorwyr, fel twrneiod cyfreithiol a chyfrifwyr, i'n helpu ni i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol, cyfrifeg neu ddiogelwch.
Pwy sy'n gallu gweld eich gwybodaeth?
Mae'r LABC yn rhwydwaith aelodaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae aelodau'r LABC yn darparu gwasanaethau rheoli adeiladu ac yn trefnu hyfforddiant, digwyddiadau a gwobrau yn lleol. Felly, mae'r LABC yn rhannu gwybodaeth cwsmeriaid â nhw i'w galluogi i ddarparu gwasanaethau a digwyddiadau yn lleol.
Mae'r LABC hefyd yn gweithio gyda sefydliadau arbenigol i ddarparu gwasanaethau technegol arbenigol i gwsmeriaid yn lleol e.e. profi, partneriaid hyfforddi, trefnwyr digwyddiadau, arbenigwyr cadwyn gyflenwi a chynhyrchion, cynhyrchwyr arddangosfeydd, cwmnïau ymchwil BMRB arbenigol, darparwyr cymwysterau addysgol, sefydliadau proffesiynol, adrannau'r llywodraeth a llywodraeth leol.
Dydy'r LABC ddim yn gwerthu data i drydydd partïon a dim ond pan fo'n berthnasol yn y ffyrdd y disgrifiwyd uchod y byddan nhw'n rhannu data.
Mewn rhai achosion, bydd y trydydd parti, e.e. awdurdod lleol, yn gweithredu fel rheolydd data dros eich gwybodaeth ac felly rydyn ni'n eich cynghori chi i ddarllen eu Polisi Preifatrwydd nhw. Ar achlysur, bydd trydydd partïon sy'n darparu cynnyrch yn rhannu eich gwybodaeth â ni, a byddwn ni'n ei defnyddio hi yn unol â'r Polisi Preifatrwydd hwn. Dydyn ni ddim yn cadw data oni bai ein bod ni'n fodlon bod gennyn ni ganiatâd a'r hawl i wneud hynny.
Pan fyddwch chi'n defnyddio ein tudalennau talu ar-lein diogel, bydd prosesydd taliadau trydydd parti, SagePay, yn prosesu eich trafodyn. Mae SagePay yn arbenigo mewn dal a phrosesu trafodion cerdyn credyd/debyd ar-lein yn ddiogel. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am drafodion diogel, cysylltwch â ni.
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni at wefannau eraill, ac mae'n bosibl bod arferion preifatrwydd y rheini'n wahanol i'n rhai ni. Os ydych chi'n cyflwyno gwybodaeth bersonol i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nhw yw'r Rheolydd Data a'u Polisi Preifatrwydd nhw fydd yn rheoli eich gwybodaeth. Rydyn ni'n eich annog i ddeall polisïau preifatrwydd unrhyw wefan yr ymwelwch â hi.
Defnyddio 'cwcis'
Fel llawer o wefannau eraill, mae gwefan yr LABC yn defnyddio cwcis i helpu i wella'r wefan a'ch profiad chi ohoni. Darnau bach o wybodaeth yw 'cwcis' sy'n cael eu hanfon gan sefydliad i'ch cyfrifiadur a'u storio ar eich gyriant caled fel bod y wefan honno'n gallu eich adnabod chi pan fyddwch chi'n ymweld.
Rydyn ni'n defnyddio "cwcis sesiwn" i ddadansoddi data cyfanredol cwcis. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n mesur nifer y trawiadau, ymweliadau, agoriadau ac ati. Fodd bynnag, dydyn ni ddim yn defnyddio'r cwci i'ch adnabod chi'n bersonol.
Gallwch chi ffurfweddu eich porwr gwe i wrthod cwcis, dileu cwcis, neu roi gwybod i chi os caiff cwci ei osod. Gallwch chi ddysgu sut i wneud hyn drwy glicio “help” ar ddewislen eich porwr, ond bydd hyn yn gwneud y wefan yn llai ymarferol ac efallai na fyddwch chi'n gallu mwynhau ein gwefan ni, nac unrhyw un arall, fel y bwriadwyd iddyn nhw gael eu defnyddio.
Mae'r cwcis rydyn ni'n eu defnyddio'n ein galluogi ni i olrhain y tudalennau rydych chi'n ymweld â nhw gan ddefnyddio Google Analytics ac yn caniatáu i chi rannu tudalennau â rhwydweithiau cymdeithasol fel Facebook.
Diogelwch
Mae'r LABC yn trin diogelwch eich gwybodaeth bersonol yn ddifrifol iawn. Pan fyddwch chi'n rhoi gwybodaeth sensitif (fel rhif cerdyn credyd) ar ein ffurflenni archebu, rydyn ni'n amgryptio trosglwyddiad y wybodaeth honno gan ddefnyddio technoleg haenen socedi diogel (SSL). Pan fyddwch chi ar dudalen ddiogel, bydd eicon clo yn ymddangos ar borwyr gwe fel Microsoft Internet Explorer a Google Chrome.
Rydyn ni'n dilyn safonau a dderbynnir yn gyffredinol yn y diwydiant i ddiogelu'r wybodaeth bersonol a gyflwynir i ni, yn ystod trawsyrru'r wybodaeth ac ar ôl ei chael hi. Fodd bynnag, does dim dull trawsyrru dros y rhyngrwyd, na dim dull storio electronig, yn rhoi diogelwch 100% ac felly, allwn ni ddim gwarantu bod y wybodaeth yn hollol ddiogel.
Mae’n bwysig bod gan bob defnyddiwr cyfrifiadur gyfrineiriau da, eu bod nhw'n eu newid nhw'n aml a'u bod nhw'n defnyddio meddalwedd gwrthfirws/mur cadarn.
Dim ond pobl sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau a gohebiaeth sy'n cael gweld y data. Maen nhw'n cael hyfforddiant ynghylch sut i ddefnyddio a diogelu data.
Hysbysiad o newidiadau polisi preifatrwydd
Efallai y byddwn yn diweddaru'r datganiad preifatrwydd hwn i adlewyrchu newidiadau i'n harferion gwybodaeth. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau perthnasol, efallai y byddwn yn eich hysbysu trwy e-bost (anfonir at y cyfeiriad e-bost a bennir yn eich cyfrif) neu drwy rybudd ar y wefan hon neu'ch cyfrif cyn i'r newid ddod yn effeithiol.
Rydym yn eich annog i adolygu'r dudalen hon o bryd i'w gilydd am y wybodaeth ddiweddaraf am ein harferion preifatrwydd.
Eich hawl chi yw rheoli'ch gwybodaeth bersonol
Efallai y byddwch chi ar unrhyw adeg yn rheoli mynediad at a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol trwy gysylltu â ni yn y cyfeiriad isod. Bydd rheolaeth o'r fath yn cynnwys y gallu i weld pa wybodaeth a gedwir gennym ac i beidio â defnyddio unrhyw wybodaeth o'ch gwybodaeth bersonol ac i atal datgeliad i unrhyw drydydd parti ac eithrio fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu orchymyn llys o awdurdodaeth briodol.
Eich hawl i ffeilio cwyn am eich gwybodaeth bersonol
Mae gennych yr hawl i gysylltu â ni â chwyn os ydych chi'n anhapus â'r ffordd yr ydym wedi defnyddio eich data personol, ac rydym wedi ymrwymo i ddatrys cwynion am ein casgliad neu ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn gydag awdurdod goruchwylio os na ddatrysir y mater hwn.
Mae LABC yn ddarostyngedig i'r Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR).
Gwybodaeth Cyswllt
Gallwch gysylltu â ni am y polisi preifatrwydd hwn, neu gydag ymholiadau a chwynion, trwy ysgrifennu at:
LABC, 2a St George Wharf, Vauxhall, London, SW8 2LE.
E-bost: info@labc.co.uk