Our training team
Our award winning training is the only industry training continuously updated to keep abreast of changes to the regulations. So it's no wonder that we have rapidly become the industry standard – not only for building control professionals, but also for planners, designers, architects, surveyors, house builders and developers.
Beth rydyn ni'n ei wneud
Rydyn ni'n adolygu ac yn ehangu ein portffolio o gyrsiau’n gyson – gan ymateb i’r galw gan y diwydiant er mwyn gallu cyflwyno cyrsiau newydd drwy gydol y flwyddyn. Mae ein cyrsiau’n dechrau o gyn lleied â £70 (hyd yn oed llai os ydych chi'n trefnu cwrs mewnol) ac rydyn ni'n darparu hyfforddiant hygyrch o safon uchel i weithwyr proffesiynol ym maes adeiladu sy’n rhoi gwerth gwych am arian ac ar gael ym mhob cwr o’r wlad! Mae ein cyrsiau wedi’u dylunio i ddileu’r malu awyr a chanolbwyntio ar fusnes, ac maent yn ddelfrydol i unrhyw un sy’n dychwelyd i’r diwydiant, yn dechrau ymwneud yn fwy gweithredol ag ef neu a hoffai gael ei atgoffa. Caiff ein cyrsiau i gyd eu cynnal gan arbenigwyr uchel eu parch yn y diwydiant.
I weld beth sydd gennyn ni ar y gweill, ewch i’n calendr beth sy’n digwydd neu porwch drwy ein catalog o gyrsiau a chynadleddau. I gael mwy o wybodaeth am unrhyw ymholiad sy’n ymwneud â hyfforddiant, cysylltwch â’n tîm hyfforddiant.
Mae datblygiad proffesiynol parhaus yn ffordd o gynnal gwybodaeth a sgiliau proffesiynol hanfodol drwy ddysgu mewn modd strwythuredig. Bydd yr LABC yn darparu tystysgrifau datblygiad proffesiynol parhaus i’n holl gyrsiau hyfforddiant a chynadleddau.
Yn olaf ond yn sicr nid lleiaf, gallwch chi ddysgu am Ddiplomâu Lefel 4 a 5 Arolygu Rheoli Adeiladu yr LABC a'r cwrs Gradd sydd ar y gweill.
I gael mwy o wybodaeth, anfonwch ebost i learning@labc.co.uk neu ffoniwch ni ar 020 7091 6860.