What is a building control surveyor and how do I get to be one?
Building control surveyors and building control officers make sure that building regulations are followed during construction.
The building regulations cover areas such as fire safety, public health, energy conservation and accessibility. If you want to use your knowledge of safe construction to help keep building standards high, this job could be ideal for you.
Sgiliau Allweddol?
Bydd angen sgiliau datrys problemau da arnoch chi. Byddwch chi hefyd yn defnyddio eich sgiliau cyfathrebu rhagorol i esbonio termau technegol a rheoliadau yn glir i'r cyhoedd ac i weithwyr proffesiynol eraill fel penseiri a pheirianwyr.
Cymwysterau?
Mae gan y rhan fwyaf o syrfewyr rheoli adeiladu newydd HNC, HND neu radd, neu gymhwyster cywerth astudiaethau adeiladu neu bwnc cysylltiedig. Mae hi hefyd yn bosibl symud i'r swydd hon o swydd arall ym maes adeiladu.
Hefyd yn gweld cymwysterau LABC
You can also move into this job from another role in building and construction.
Rydyn ni'n hysbysebu swyddi rheoli adeiladu i gynghorau ledled Cymru a Lloegr. Gallai eich swydd nesaf chi fod yn un o'r rhain.
Sut mae diwrnod nodweddiadol yn edrych?
Fel swyddog rheoli adeiladu, byddwch chi'n gweithio ar gamau cynllunio ac adeiladu prosiectau adeiladu i wneud yn siŵr eu bod nhw'n bodloni'r safonau adeiladu. Mae'r prosiectau'n gallu amrywio o estyniad bach ar dŷ i ddatblygiad mawr yng nghanol dinas.
Yn y swydd hon, rydych chi'n debygol o wneud y canlynol:
- Cydweithio’n agos â phenseiri, dylunwyr, adeiladwyr a pheirianwyr.
- Gwneud yn siŵr bod dyluniadau a chynlluniau adeiladau'n bodloni rheoliadau.
- Awgrymu ffyrdd o wneud y prosiect adeiladu'n fwy cost-effeithiol, fel defnyddio llai o egni a dŵr.
- Cynnal archwiliadau safle rheolaidd ar bob cam yn y broses adeiladu.
- Ysgrifennu adroddiadau arolygu a chadw cofnodion.
- Cyflwyno tystysgrifau cwblhau.
Efallai y byddwch chi hefyd yn gyfrifol am arolygu adeiladau sydd wedi mynd yn anniogel oherwydd digwyddiadau fel tân neu dywydd garw. Byddwch chi'n rhoi cyngor am waith sydd ei angen i wneud yr adeiladau'n ddiogel, neu'n cymeradwyo eu dymchwel os nad oes modd eu trwsio nhw. Mae cyfrifoldebau eraill yn cynnwys caniatáu trwyddedau adloniant ac archwilio diogelwch mewn mannau cyhoeddus fel meysydd chwaraeon, digwyddiadau awyr agored, sinemâu a theatrau.
Ar bob prosiect, byddwch chi'n ystyried sut bydd eich penderfyniadau'n effeithio ar amser a chostau'r contractwyr. Os penderfynwch chi nad yw prosiect adeiladu'n bodloni'r rheoliadau, cewch chi gychwyn achos cyfreithiol i newid neu atal y gwaith adeiladu.
Oriau ac amodau gwaith
Byddech chi fel arfer yn gweithio rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Weithiau, efallai y byddwch chi ar rota ar alwad 24 awr, er enghraifft pe bai angen i chi archwilio adeilad anniogel i'r gwasanaethau argyfwng.
Fel arfer, byddwch chi'n rhannu eich amser rhwng y swyddfa ac ymweliadau â safleoedd. Gallwch chi fod ar safleoedd ym mhob math o dywydd, ac mewn rhai achosion bydd angen gweithio ar uchder ar sgaffaldiau neu ysgolion.
Incwm
Mae cyflogau cychwynnol yn gallu amrywio o £21,000 i £26,000 y flwyddyn.
Mae arolygwyr profiadol yn gallu ennill rhwng £27,000 a £38,000.
Mae uwch arolygwyr yn gallu ennill hyd at £50,000 y flwyddyn.
(Canllaw yn unig yw'r ffigurau hyn.)
Gofynion mynediad
Mae gan y rhan fwyaf o syrfewyr rheoli adeiladu newydd HNC, HND neu radd, neu gymhwyster cywerth. Hefyd, mae'n well gan rai cyflogwyr os ydych chi'n aelod achrededig o gorff proffesiynol fel Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS), Sefydliad Siartredig y Peirianwyr Adeiladu (CABE) neu'r Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB). (Mae'r LABC hefyd yn lansio cymwysterau adeiladu newydd cyn bo hir - gallwch chi gofrestru eich diddordeb yma.)
Mae'r pynciau gradd perthnasol yn cynnwys:
- astudiaethau adeiladu
- peirianneg sifil
- peirianneg adeileddol
- rheoli adeiladu
- arolygu adeiladu
Gallwch chi hefyd chwilio ar wefannau RICS, CABE a CIOB i gael gwybodaeth am raddau achrededig.
Gallai profiad o weithio ym maes adeiladu eich helpu chi i ddechrau ar yr yrfa hon. Gall hyn hefyd eich helpu chi i ddod o hyd i gysylltiadau yn y diwydiant a rhoi blas i chi ar sut beth yw gweithio yn y sector hwn. Gallai grŵp o gysylltiadau eich helpu chi i ddod o hyd i waith am dâl yn ddiweddarach. Gallwch chi gael profiad drwy gael blwyddyn ar leoliad yn ystod eich cyfnod mewn prifysgol neu goleg, drwy gael swydd ran-amser neu yn ystod y gwyliau, neu drwy gysgodi swydd.
Mae hi hefyd yn bosibl symud i mewn i faes rheoli adeiladu o faes arall sy'n ymwneud ag adeiladu, fel gwasanaethau mesur meintiau.
Hyfforddi a datblygu
Ar ôl dechrau gweithio, byddech chi fel arfer yn cael hyfforddiant yn y swydd. Efallai y cewch chi eich annog i weithio tuag at radd neu ddyfarniad ôl-radd os nad oes gennych chi un eisoes.
Gallai ymaelodi â chorff proffesiynol fel RICS, CABE neu'r CIOB wella eich rhagolygon gyrfa. Gall hyn hefyd atgyfnerthu eich statws proffesiynol a dangos eich bod chi'n diweddaru eich gwybodaeth a'ch sgiliau. Mae buddion eraill aelodaeth yn cynnwys datblygiad proffesiynol parhaus, hyfforddiant a digwyddiadau.
Gallai eich llwybr at aelodaeth ddibynnu ar eich cymwysterau, lefel eich profiad proffesiynol a'ch swyddogaeth bresennol. Ewch i wefannau RICS, CABE a CIOB i gael mwy o wybodaeth.
Sgiliau, diddordebau a rhinweddau
I fod yn swyddog rheoli adeiladu neu'n syrfëwr, bydd angen y canlynol arnoch chi:
- Gwybodaeth drwyadl am y rheoliadau adeiladu
- Dealltwriaeth dda o ochr dechnegol adeiladu
- Sgiliau datrys problemau da
- Ymagwedd ystyriol
- Sgiliau TG cryf
- Sgiliau cyfathrebu a negodi rhagorol
- Y gallu i esbonio termau technegol yn glir i aelodau’r cyhoedd
- Sgiliau rheoli amser a gallu i drefnu pethau
- Sgiliau gwaith tîm da a'r gallu i weithio ar eich pen eich hun pan fo angen
Ymddangosodd yr erthygl hon ar wefan y Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yn gyntaf.
Meet our Trainee of the Year
Find out what 2018 Trainee of the Year Bhavesh Patel had to say about building control and winning his award: