Do I need building regulations approval for my porch?
Mae ychwanegu porth i gysgodi mynedfa eich cartref yn aml yn brosiect llai a does dim angen cymeradwyaeth rheoli adeiladu cyn belled â'i fod yn bodloni'r amodau canlynol:
- Mae'r porth ar lefel y ddaear;
- Mae arwynebedd llawr y porth yn llai na 30 metr sgwâr;
- Rhaid i ddrws ffrynt presennol y tŷ lle mae'r porth yn cael ei adeiladu aros yn ei le;
- Rhaid i'r porth beidio ag amharu ar fynediad os oes rampiau neu nodweddion eraill i bobl anabl wedi'u gosod yn barod.
Ffenestri a thrydan
Os ydych chi'n cynllunio i adeiladu porth mwy cymhleth sy'n cynnwys ffenestri a/neu osodiadau trydanol, bydd angen i'r rhain fodloni'r safonau a bennir yn y rhannau perthnasol o'r Rheoliadau Adeiladu.
Er enghraifft, er mwyn i ffenestri gydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu a gwneud y tŷ'n effeithlon o ran egni, rhaid i'r gwydr a'r fframiau beidio â gadael gormod o wres drwodd. Mae gwydrau diogelwch a gwrthsefyll tân yn bethau eraill i'w hystyried.
Ar gyfer mân waith trydanol fel gwaith disodli neu addasu cylchedau presennol neu ychwanegu atynt (heb fod mewn lleoliadau arbennig fel ceginau ac ystafelloedd ymolchi) does dim angen archwiliad gan gorff rheoli adeiladu fel arfer. Dylech chi dalu unigolyn cymwys cofrestredig i wneud unrhyw waith mawr – bydd rhywun fel hyn yn gallu ardystio bod y gwaith yn ddiogel ac yn cydymffurfio.
Mae angen i unrhyw waith gosod trydanol gan grefftwr heb gofrestru, neu gennych chi eich hun, gael ei archwilio a'i gymeradwyo gan gorff rheoli adeiladu. Os nad ydych chi'n siŵr am y gofynion mae'n rhaid i chi eu bodloni, mae croeso i chi gysylltu â'ch tîm rheoli adeiladu lleol i gael cyngor.
Ein canllawiau poblogaidd eraill
- Addasu atig – Pryd mae angen cais Rheoliadau Adeiladu?
- Addasiadau garejis
- Estyniadau
- Ystafelloedd haul
- Addasiadau mewnol
- Pam mae rheoli adeiladu'n bwysig?