Sut mae'r LABC yn eich helpu i osgoi adeiladwyr diegwyddor
Darganfyddwch isod sut i amddiffyn eich hun yn erbyn adeiladwyr cowboi, a sut y gall LABC eich helpu â hynny.
Y cam cyntaf
Fel rheol, y cam cyntaf yw dylunio eich prosiect ac yn ddelfrydol bydd angen cymorth gweithiwr proffesiynol profiadol, megis pensaer, syrfëwr neu beiriannydd.
Os ydych yn gwneud hyn, fel rheol byddant yn cyflwyno'r cais rheoliadau adeiladu ar eich rhan.
Mae dwy ffordd o wneud cais (cyflwyniad Hysbysiad Adeiladu neu Gynlluniau Llawn).
Yn gyffredinol ar gyfer estyniadau byddem yn argymell dewis Cynlluniau Llawn er eich tawelwch meddwl chi.
Cynlluniau Llawn
Bydd Syrfëwr Rheoli Adeiladu'n archwilio eich cynlluniau ar adeg eu cyflwyno i gadarnhau eu bod yn bodloni'r rheoliadau adeiladu presennol.
Os nad ydynt, cewch chi/eich asiant wybod pa waith sydd ei angen i sicrhau cydymffurfiad.
Wedi i chi ddechrau gwaith ar safle, bydd syrfëwr yn galw i archwilio'r gwaith wrth iddo fynd rhagddo. Fodd bynnag, eich cyfrifoldeb chi/cyfrifoldeb eich adeiladwr yw sicrhau bod yr awdurdod lleol yn dod i archwilio'r gwaith adeiladu ar adegau pwysig; fel rheol, eglurir hyn yn llawn yn yr ohebiaeth sy'n cadarnhau cymeradwyaeth o'ch cais.
Mae'r archwiliad terfynol o'r gwaith yn arbennig o bwysig, a dylid cynnal hwn cyn i'ch adeiladwr adael y safle. (Eich tystysgrif gwblhau yw'r ddogfen sy'n cadarnhau bod y gwaith a archwiliwyd yn bodloni'r rheoliadau adeiladu a bydd ei hangen os ydych yn gwerthu neu'n ailforgeisio eich eiddo yn y dyfodol.)
10 IE a NA wrth gynllunio eich prosiect
IE ceisiwch gael o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig wedi'u heitemeiddio ar gyfer eich gwaith adeiladu oherwydd mae prisiau'n gallu amrywio'n fawr iawn. Peidiwch â mynd yn syth am y dyfynbris rhataf, ond gwnewch yn siŵr bod eich dyfynbrisiau'n cynnwys yr un pethau h.y. efallai y bydd un dyfynbris yn nodi'r holl osodiadau a ffitiadau mewn ystafell ymolchi newydd ond un arall yn rhoi swm enwol o £1,000 ac yn disgwyl i chi dalu unrhyw gost ychwanegol. (Efallai y gallai eich cynghorydd proffesiynol helpu i archwilio'r rhain i chi.)
IE defnyddiwch adeiladwr ag enw da – yn ddelfrydol, un sydd wedi cael ei argymell i chi ac y gallwch fynd i weld ei waith a siarad â'i gwsmeriaid presennol. (Gofynnwch a fyddent yn ei ddefnyddio eto, a oedd yn daclus, yn brydlon ac yn gweithio o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt?) Gofynnwch i ddarpar adeiladwyr am eu harbenigedd â'ch math chi o brosiect adeiladu, sut yr hoffent gael eu talu, a fyddant yn rhoi anfonebau wedi'u heitemeiddio i chi; a allant roi dyddiad cwblhau terfynol i chi? Os oes gennych amheuaeth, defnyddiwch adeiladwr cymwys wedi'i archwilio fel y rhai y gallwch eu canfod drwy'r FMB.
IE treuliwch amser yn gynnar i gynllunio a dylunio eich prosiect oherwydd pe bai angen gwneud newidiadau'n nes ymlaen, gallai hynny fod yn gostus o ran amser a gollir a ffioedd ychwanegol. (Mae'r blog Home & Build yn ddefnyddiol i gael syniadau.)
IE gwnewch yn siŵr bod eich cynlluniau wedi'u lluniadu'n iawn gan weithiwr proffesiynol profiadol a'u bod yn cael eu cyflwyno i'r tîm rheoli adeiladu (ynghyd â'ch ffurflen gais a'ch ffi) ymhell cyn i chi ddechrau gweithio ar y safle fel y gall y tîm eu harchwilio a'u cymeradwyo.
(Mae cymeradwyaeth rheoliadau adeiladu'n ddilys am dair blynedd a chyn belled â'ch bod yn dechrau gwaith cyn yr amser hwn, cewch barhau a chwblhau'r gwaith heb ddim terfyn amser.) Cofiwch gael manylion cyswllt llawn eich adeiladwr a'u gwirio. Byddwch yn amheus o adeiladwr heb bapurau busnes neu un sy'n gwrthod eu rhoi i chi, neu un â rhif ffôn symudol yn unig neu un sy'n mynnu delio mewn arian parod.
IE cytunwch â'ch adeiladwr cyn iddo ddechrau gweithio pwy fydd yn gyfrifol am gysylltu â rheoli adeiladu i drefnu archwiliadau o'r safle. Yna gwnewch yn siŵr bod galwad ffôn yn cael ei gwneud cyn i'r gwaith ddechrau ar y safle a phan fydd angen archwiliadau statudol rheolaidd. (Mae'r rhain yn cynnwys dechrau'r gwaith, draenio, sylfeini, gwrthleithder, gwaith dur ac adeiladu'r to yn ogystal â'r archwiliad terfynol.)
IE ystyriwch ddefnyddio contract ysgrifenedig os yw eich prosiect yn fawr neu'n gymhleth. Efallai y gallai eich pensaer eich helpu â hyn, neu mae nifer o gontractau adeiladu syml ar gael i berchenogion tai eu prynu ar y rhyngrwyd.
IE ystyriwch warant ag yswiriant os ydych yn gwneud gwaith adeiladu mawr. Bydd hon yn darparu arian i gywiro gwaith pe bai angen oherwydd mae hyd yn oed y cwmni gorau'n gallu mynd i drafferthion heb fod ar fai. Gwiriwch a yw eich gwaith yn cynnwys gwaith ar wal gydrannol, ac os ydyw, a oes angen i chi gysylltu â'ch cymydog neu gyflwyno Hysbysiad Wal Gydrannol iddynt; mae angen i hyn ddigwydd fis neu ddau cyn i chi ddechrau gwaith. Peidiwch â delio mewn arian parod yn unig. Os oes rhaid i chi wneud hyn ar ryw adeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael derbynneb wedi'i llofnodi am y taliad.
NA peidiwch â threfnu i dalu symiau mawr o arian ymlaen llaw am waith. Mae'n well gwneud taliadau fesul cam, megis hyd at y cwrs atal lleithder, lefel y to a chwblhau'r gwaith.
NA peidiwch â chymryd yn ganiataol, os yw eich adeiladwr yn dweud wrthych nad oes angen caniatâd yr awdurdod lleol, bod hyn o reidrwydd yn wir. Gwiriwch â'r adrannau Cynllunio a Rheoli Adeiladu eich hun os nad ydych yn siŵr. (Dylech chi hefyd ystyried caniatâd yr awdurdodau dŵr a charthffosiaeth.) Peidiwch ag addasu eich cynlluniau cymeradwy heb wirio â'r adrannau Cynllunio a Rheoli Adeiladu yn gyntaf. Os ydych yn gwneud hyn, rhowch fanylion yr addasiadau a chytunwch ar yr amserlen a chostau ychwanegol â'ch adeiladwr ymlaen llaw.
NA peidiwch â gwneud eich taliad terfynol i'ch adeiladwr nes eich bod yn gwbl fodlon â'i waith a bod eich tystysgrif gwblhau wedi'i rhoi.
Cysylltu â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol
Mae'r LABC yma i helpu
Rydym yn gobeithio y bydd y wybodaeth hon yn eich helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth gynllunio eich prosiect adeiladu. Mae'r mwyafrif llethol o gontractwyr yn ddibynadwy ac mae ganddynt enw da, ond bydd gwybod pa gwestiynau i'w gofyn yn eich helpu i wneud penderfyniad doeth ynglŷn â phwy i'w dalu i adeiladu eich prosiect.
Bydd tîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol yn hapus i gynnig cyngor cyn ymgeisio a chyngor parhaus ar unrhyw adeg ynglŷn â'r rheoliadau adeiladu pe bai ei angen arnoch. Fodd bynnag, peidiwch ag anghofio, er ein bod yma i helpu, nad yw hynny cystal â chyngor proffesiynol eich asiant neu bensaer ynglŷn â dylunio, adeiladu a rheoli'r prosiect.
Rhwydwaith cenedlaethol
- Yr LABC yw prif wasanaeth rheoli adeiladu cenedlaethol y Deyrnas Unedig, felly rydym yn ymroddedig i gynn.
- Mae gennym brofiad diguro o gynorthwyo â'r broses ddylunio ac archwilio gwaith adeiladu ar y safle.
- Mae'r LABC yn rhwydwaith cenedlaethol o dros 3,000 o syrfewyr proffesiynol (Syrfewyr Rheoli Adeiladu) ag enw da haeddiannol am degwch ac ymarferoldeb.
- Ein nod yw darparu gwasanaeth rheoli adeiladu diduedd, dibynadwy a phroffesiynol sy'n sicrhau iechyd a diogelwch pobl yn yr amgylchedd adeiledig.
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch y Rheoliadau Adeiladu neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â thîm rheoli adeiladu eich awdurdod lleol.
lleol Bydd tîm rheoli adeiladu eich cyngor lleol yn hapus i gynnig cyngor cyn ymgeisio a chyngor parhaus ar unrhyw adeg ynglŷn â'r rheoliadau adeiladu pe bai ei angen arnoch.
Fodd bynnag, peidiwch ag anghofio, er ein bod ni yma i helpu, nad yw hynny cystal â chyngor proffesiynol eich asiant neu bensaer ynglŷn â dylunio, adeiladu a rheoli'r prosiect. Chwiliwch nawr.