Gwarantau adeileddol
LABC Warranty yn gweithio mewn partneriaeth gyda Rheoli Adeiladu’r Awdurdod Lleol (yr LABC) i ddarparu gwarantau adeileddol cartrefi newydd i rai o'r adeiladwyr tai a'r cymdeithasau tai mwyaf yn y wlad, yn ogystal â miloedd o hunanadeiladwyr.
Mae ein partneriaeth â'r LABC yn golygu y gallwn ni ddarparu holl arbenigedd technegol dros 3,500 o syrfewyr i gynorthwyo eich anghenion o ran gwarantau adeileddol a rheoli adeiladu.
Mae gwarant adeileddol yn elfen allweddol ar unrhyw brosiect adeilad newydd i sicrhau ansawdd o lefel y sylfeini i'w gwblhau yn ymarferol, a dyna pam rydyn ni'n cynnig proses syml o ymgeisio hyd at gyhoeddi eich tystysgrif.
Crynodeb o'n gwarantau adeileddol
Mae benthycwyr mwyaf y DU i gyd yn derbyn hon, ac mae'n helpu adeiladwyr i werthu eu datblygiad newydd yn haws.
Gwarant am hyd at 12 mlynedd ar dai fforddiadwy neu dai rhanberchnogaeth newydd i ddiogelu cymdeithasau tai a'u tenantiaid.
Gwarant am hyd at 12 mlynedd ar eiddo rhentu pwrpasol i roi sicrwydd a diogelwch i'r datblygwr neu'r buddsoddwr, gan gynnwys colli rhent* a llety wrth gefn.
Gwarant sydd wedi'i chynllunio'n benodol i bobl sy'n adeiladu cartref eich breuddwydion. Yn ogystal â rhoi diogelwch a thawelwch meddwl, gellir defnyddio'r polisi 10 mlynedd i sicrhau taliadau fesul cam gan fenthycwyr.
Amddiffyn cyllideb cynnal a chadw'r adeiladwr/datblygwr rhag y risg o ddiffygion yn y dyfodol wrth uwchraddio stoc o dai sy'n bodoli.
Gwarant i gynlluniau mawr â gwerth uchel sy'n rhoi'r amddiffyniad gorau ar y farchnad o ran cyfyngiadau ariannol, trosglwyddo risg llawn ac ansolfedd.
Gwarant i eiddo sydd wedi'i gwblhau ond lle nad oes gwarant ar waith eisoes e.e. os yw amgylchiadau hunanadeiladwr wedi newid gan olygu bod angen gwarant nawr i werthu'r tŷ.
Amddiffyn perchenogion neu ddatblygwyr safleoedd masnachol rhag diffygion a allai fod yn gostus.
Mae ein holl gynhyrchion wedi’u tanysgrifennu gan yswirwyr gradd ‘A’ ac yn cael eu derbyn gan holl brif fenthycwyr y DU.
I gael mwy o wybodaeth neu i gael dyfynbris ar gyfer gwarant, cysylltwch â ni dros y ffôn neu drwy ebost.
Tel: 0845 054 0505
Email: info@labcwarranty.co.uk
Website: www.labcwarranty.co.uk