A oes angen i mi wneud cais rheoliadau adeiladu wrth osod ffitiad rheoledig mewn adeilad eithriedig?
Roedd canllawiau gan gyn-Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM) yn 2005 yn dweud, os yw’r adeilad yn ‘adeilad sengl bach’ fel y’i diffinnir yn Atodlen 2 y Rheoliadau Adeiladu, nid yw’r rheoliadau’n berthnasol i’w godi nac i unrhyw waith a wneir iddo wedi hynny cyn belled â’i fod yn dal i fod yn adeilad bach sengl.
Cadarnhawyd hyn yn ddiweddarach gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) lle nodwyd nad yw’r sefyllfa wedi newid a bod unrhyw waith i ffitiadau rheoledig wedi’i eithrio. Dywedodd y DCLG hefyd fod yr unig reolaeth yn ymwneud â Rhannau G a P rheoliadau 9(2) a (3) Rheoliadau Adeiladu 2010.
Read our homeowners' frequently asked questions