Ydw i angen Cais Rheoliadau Adeiladu?
Mae angen ceisiadau Rheoliadau Adeiladu ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau adeiladu:
Adeiladau Newydd
- Pob adeilad newydd heblaw adeiladau amaethyddol
- Garejis sydd ddim yn gwbl ar wahân ac o dan 30 metr sgwâr
Estyniadau
- Pob estyniad beth bynnag yw ei faint
- Rhai ystafelloedd gwydr a phyrth – mae llawer wedi’u heithrio ond rhaid bod drysau rhwng y rhain a’r tŷ ac ni cheir eu gwresogi
- Estyniadau to, balconïau a therasau to
- Isloriau ac estyniadau islawr
Addasiadau
- Pob addasiad atig, estyniadau to, balconïau a therasau to
- Pob addasiad garej
- Addasiadau ysgubor
- Isrannu tŷ’n fflatiau
- Newid fflatiau’n ôl yn dŷ
Newidiadau
- Creu ‘rhandy nain’
- Creu ystafell ymolchi newydd neu ensuite neu ystafell gotiau
- Gosod cegin newydd
- Tynnu wal sy’n dal pwysau – mae angen i chi ofyn i beiriannydd adeileddol i gadarnhau nad yw eich wal yn cynnal y waliau, y llawr neu’r to uwch ei phen
- Tynnu wal sydd ddim yn dal pwysau os yw’n gwahanu ystafell a’ch cyntedd, eich grisiau neu ben eich grisiau
- Gosod system wresogi neu foeler newydd neu amnewid un, beth bynnag yw math y tanwydd
- Gosod tanc oelew newydd neu amnewid un
- Gosod ystafell ymolchi newydd os yw hynny’n golygu newid y plymwaith presennol neu osod plymwaith newydd
- Gosod systemau aerdymheru parhaol
- Gosod rheiddiaduron ychwanegol i rai systemau gwresogi sy’n bodoli eisoes
- Amnewid blychau ffiwsys, unrhyw osodiad trydanol newydd wedi’i gysylltu â’r blwch ffiwsys a newidiadau i osodiadau trydanol mewn ystafelloedd ymolchi o gwmpas y baddon neu’r gawod, amnewid unedau ffenestri a drysau
- Gosod goleuadau to
- Gwneud ffenestri neu ddrysau’n lletach neu’n uwch
- Amnewid gorchuddion to ar doeau ar ongl a thoeau gwastad hyd yn oed os yw’r un newydd yr un fath â’r hen un
- Amnewid eich llawr
Gellir gwneud rhywfaint o waith heb hysbysu Rheoli Adeiladu, megis:
- Y rhan fwyaf o waith atgyweirio, amnewid a chynnal a chadw (ac eithrio amnewid offer llosgi, tanciau olew, blychau ffiwsys trydanol neu unedau gwydro – mae angen hysbysu am y rhain)
- Socedi pŵer neu oleuadau ychwanegol neu unrhyw newidiadau eraill i gylchedau sy’n bodoli (ac eithrio o gwmpas baddonau a chawodydd)
- Amnewid baddonau, toiledau, basnau neu sinciau â rhai’r un fath
Gallwch siarad â Rheolaethi Adeiladu’n anffurfiol, ac yn ddi-dâl fel arfer, i gael cyngor ac arweiniad.
Read our homeowners' frequently asked questions.