Cymwysterau rheoli adeiladu
Gallwch chi ofyn am fwy o wybodaeth gan learning@labc.co.uk.
Mae cymwysterau rheoli adeiladu ffurfiol a dysgu DPP anffurfiol ar gael i bawb sy'n gweithio i dîm rheoli adeiladu awdurdod lleol – rheolwyr, syrfewyr, hyfforddeion, prentisiaid a gweinyddwyr cymorth technegol.
Mae'r cynnwys yn cael ei ddatblygu gan arbenigwyr technegol profiadol iawn ym maes rheoli adeiladu, ac yn cael ei ddarparu drwy gymysgedd o ddulliau ar-lein a wyneb yn wyneb i'w wneud yn hygyrch i'r holl fyfyrwyr ble bynnag maen nhw wedi'u lleoli.
Mae'r cynnwys dysgu ffurfiol wedi'i achredu'n academaidd a'i ddilysu gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig. Mae'r cymwysterau'n ystyried profiad ac addysg o'r gorffennol fel bod myfyrwyr yn gallu dechrau eu hastudiaethau ar y lefel gywir a mwyaf priodol iddyn nhw.
Fideo o'r Swyddog Technegol Maria yn sôn am weithio ym maes rheoli adeiladu
Cymwysterau
Lefel 3 - Tystysgrif mewn Cymorth Gweinyddu Technegol
- Chwe mis (rhan-amser)
- Arbenigedd - Prosesau, swyddogaethau, cefndir cyfreithiol a chyflenwi gwasanaethau
- Darperir gan yr LABC
- Dyfernir gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig
Lefel 4 - Diploma mewn Arolygu Rheoli Adeiladu
- Un flwyddyn (rhan-amser)
- Arbenigedd - Estyniadau ac addasiadau domestig
- Darperir gan yr LABC
- Dyfernir gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig
Lefel 5 - Diploma mewn Arolygu Rheoli Adeiladu
- Un flwyddyn (rhan-amser)
- Arbenigeddau - Cartrefi newydd, masnachol bach, masnachol mawr ac adeiladau uchel
- Darperir gan yr LABC
- Dyfernir gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig
Lefel 6 - BSc (Anrhydedd) mewn Rheoli Adeiladu (Gradd Prentisiaeth)
- Pedair mlynedd (rhan-amser)
- Arbenigeddau - Estyniadau ac addasiadau domestig, Cartrefi newydd, Masnachol bach, Masnachol mawr ac Adeiladau Uchel, Patholeg adeiladau, Diogelwch tân, Hygyrchedd, Diogelwch mewn meysydd chwaraeon a Thechnoleg adeiladu gynaliadwy
- Caiff ei ariannu gan yr Ardoll Prentisiaethau yn 2019
- Darperir a dyfernir gan ddarparwyr hyfforddiant prentisiaeth
Y dyddiad dechrau nesaf ar gyfer pob cymhwyster yw Medi 2019, a bydd cofrestriadau'n dechrau yn gynnar yn 2019.
Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalen Aelodau.
DPP (Datblygiad Proffesiynol Parhaus)
Fel y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol, dylai syrfewyr yr LABC wneud Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP) er mwyn cadw'n fedrus, addasu i darfu ar y diwydiant a heriau, yn ogystal â dysgu sgiliau ac arbenigeddau newydd. Mae'r LABC yn darparu amrywiaeth o ddysgu ffurfiol ac anffurfiol â'r bwriad o'ch helpu chi i ddatblygu a chynnal gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiad proffesiynol hanfodol drwy ddysgu mewn modd strwythuredig.
"Drwy ddarparu dysgu seiliedig ar gymhwysedd i adeiladwyr proffesiynol, rydyn ni'n eu galluogi nhw i lwyddo, a gyda'n gilydd rydyn ni'n newid yr amgylchedd adeiledig er gwell."Paul Everall CBE, Prif Weithredwr yr LABC
Get in touch today with any questions you may have on LABC qualifications.