Do I need building regulations approval for my conservatory? (Video)
Watch our video on conservatories and the building regulations
Adeiladu ystafell wydr?
Mae llawer o ystafelloedd gwydr, tai haf, siediau ac adeiladau allanol yn gallu cael eu hadeiladu heb gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu. Y rheol gyffredinol yw os ydynt yn fach (llai na 30m2), neu wedi’u hadeiladu o ddefnydd sydd ddim yn hylosg, neu wedi’u gwahanu o adeiladau neu dir cyfagos ac nad ydynt yn cynnwys llety cysgu, eu bod wedi’u heithrio o’r gofyniad i gyflwyno cais – ond mae’n well gwirio hyn â’ch tîm rheolaethi adeiladu lleol cyn dechrau gwaith.
Yn gyffredinol, rhaid adeiladu ystafelloedd gwydr o waliau a thoeau sy’n lled dryloyw gan fwyaf a rhaid bod drws o fath allanol rhyngddynt â gweddill y tŷ. Gellir adeiladu sylfeini a lloriau mewn amrywiaeth o ffyrdd, ond mae angen ystyried amodau’r ddaear, coed a draeniau sy’n bodoli. Mae hefyd yn arfer da cynnwys inswleiddiado i’w gwneud yn haws gwresogi’r ystafell wydr. Dylai ystafelloedd gwydr sydd wedi’u hadeiladu o uPVC fod â fframiau â marciau Safon Brydeinig (BSEN 126908 a/neu BS7412) i wneud yn siŵr eu bod yn ddigon cryf i gynnal pwysau’r to. Fel rheol, bydd angen trin ystafelloedd gwydr pren drwy eu staenio neu eu hiro i sicrhau eu bod yn aros yn ddibynadwy. Dylech wirio bod y pren yn dod o ffynonellau cynaliadwy. Dylai’r gwydr fod yn wydn neu’n wydr diogelwch.