Pwy sy'n gymwys, categorïau a meini prawf beirniadu
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu’r LABC yn broses dau gam sy’n dechrau ym mhob un o’n 12 rhanbarth mewn digwyddiadau sy’n dechrau yn y gwanwyn ac yn cael eu cynnal tan ganol yr haf. I gael gwybodaeth am bwy sy'n cael cynnig, pam dylech chi gynnig a sut mae'r gwobrau'n gweithio, ewch i'r dudalen Ynglŷn â Gwobrau'r LABC.
Ydw i'n gymwys?
Os ydych chi'n syrfëwr rheoli adeiladu neu'n unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â phrosiect adeiladu, dyma eich gofynion cymhwysedd ar gyfer gwobrau 2018 (cymhwysedd 2019 i ddilyn yn nes ymlaen eleni):
- Bydd y gwaith rheoli adeiladu wedi cael ei wneud gan dîm rheoli adeiladu awdurdod lleol (nid gan arolygydd cymeradwy).
- Cafodd y prosiectau eu cwblhau rhwng 1 Ionawr a 31 Rhagfyr 2017.
- Cafodd cynigion eu cyflwyno gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein.
Categorïau ein Gwobrau
Ar gyfer Gwobrau 2018 (prosiectau wedi'u cwblhau yn 2017) mae 12 categori:
Estyniad neu newid gorau i gartref sy’n bodoli
- Adeiladwr neu grefftwr traddodiadol lleol gorau
- Newid defnydd gorau mewn adeilad sy’n bodoli neu addasiad
- Cartref newydd unigol gorau
- Datblygiad tai newydd gorau
- Datblygiad tai cymdeithasol neu fforddiadwy newydd gorau
- Adeilad gwasanaethau cyhoeddus gorau
- Adeilad addysgol gorau
- Prosiect masnachol gorau
- Adeilad Cynhwysol Gorau
- Partneriaeth orau â thîm rheoli adeiladu awdurdod lleol
- Gweithiwr Adeiladu Proffesiynol y flwyddyn yr LABC
Meini prawf beirniadu
Gallwch chi ddarllen eglurhad o bob un o’n categorïau a’r meini prawf beirniadu ar gyfer pob un.
......a darllen Sut i wneud cynnig a fydd yn ennill i roi gwell cyfle i'ch cynnig chi ennill.
Barod i fynd?