Hyfforddiant a chymwysterau
Cyrsiau hyfforddiant datblygiad proffesiynol parhaus, diplomâu a gradd BSc Anrhydedd yr LABC yw’r unig gyrsiau sy’n cael eu diweddaru’n barhaus gan arbenigwyr y diwydiant i gyd-fynd â newidiadau i’r rheoliadau adeiladu. O ganlyniad, rydyn ni wedi ein sefydlu ein hunain fel safon y diwydiant yn gyflym – nid dim ond i weithwyr proffesiynol rheoli adeiladu, ond hefyd i gynllunwyr, dylunwyr, penseiri, syrfewyr, adeiladwyr tai a datblygwyr.
Rydyn ni’n darparu cyrsiau hyfforddiant hygyrch o safon uchel i weithwyr proffesiynol ym maes adeiladu sy’n rhoi gwerth gwych am arian ac yn cael eu darparu ym mhob cwr o’r wlad ac ar-lein gan arbenigwyr y diwydiant sy'n uchel eu parch.
Rydyn ni'n gweithio gyda darparwyr addysg bellach ac addysg uwch fel Prifysgol Wolverhampton a'r Sefydliad Adeiladu Siartredig (CIOB) i ddatblygu cymwysterau, a'n llwybr cymwysterau arloesol ni yw'r cyntaf o'i fath yn y DU.
Mae ein calendr yn dangos y cyrsiau hyfforddiant, y digwyddiadau a'r cynadleddau sydd ar y gweill gennym yn ôl math o ddigwyddiad, ardal, a dyddiad.
Gwybodaeth am ddigwyddiadau a chynadleddau cysylltiedig ag adeiladu a rheoli adeiladu sydd ar y gweill gan sefydliadau heblaw'r LABC.
Gallwn ni deilwra unrhyw un o'n cyrsiau a'n gweithdai i fodloni union anghenion eich sefydliad a darparu hyfforddiant yn fewnol ar eich safle chi.
Sut i gael statws aelodaeth siartredig o'r CIOB, gyda neu heb radd.
Oes gennych chi gwestiwn am unrhyw gwrs hyfforddiant neu gynhadledd gan yr LABC? Gallwch chi chwilio am yr ateb yma.
Mae'r LABC yn cynnal cynadleddau achlysurol i'r diwydiant, gan ddod ag arbenigwyr at ei gilydd i rannu'r newyddion a'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant â phawb.