Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rhanbarthol yr LABC
Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rhanbarthol yr LABC yw'r gwobrau busnes i fusnes mwyaf yn y sector rheoli adeiladu, ac maen nhw'n cydnabod ansawdd ym mhob math o brosiectau adeiladu.
Os ydych chi wedi defnyddio rheoli adeiladu awdurdod lleol ar gyfer eich prosiect, rhowch gynnig ar gyfer y gwobrau er mwyn:
- Ennill cydnabyddiaeth a gwella eich enw da yn y diwydiant
- Gwobrwyo eich tîm am waith rhagorol
- Cyfarfod â chleientiaid a chymheiriaid yn y digwyddiad i godi eich proffil a helpu i sicrhau busnes i'r dyfodol
- Beth am geisio cyrraedd ein Rownd Derfynol Fawr enwog a mawreddog, sy'n denu dros 700 o bobl o Gymru a Lloegr?
Beth yw Gwobrau Rhagoriaeth Adeiladu Rhanbarthol yr LABC?
Mae'r gwobrau'n dathlu eich cyraeddiadau chi yn y diwydiant adeiladu. Maen nhw'n gwobrwyo adeiladau rhagorol, y cwmnïau gorau, a phartneriaethau ac unigolion sy'n mynd y tu hwnt i'r disgwyl.
Mae rhwydwaith yr LABC yn cynnwys pob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr ac mae wedi'i rannu'n 12 rhanbarth, ac mae pob un o'r rhain yn cynnal eu gwobrau eu hunain. (I gael gwybod mwy am y gwobrau rhanbarthol, a sut i gynnig am bob un, ewch i’n tudalen Gwobrau Rhanbarthol.)
Yn wahanol i wobrau eraill, nid sut mae pethau'n edrych yw popeth! Rydyn ni'n ystyried elfennau hollbwysig eraill fel:
- Lefelau uchel o gydymffurfiad â'r rheoliadau adeiladu
- Perthynas waith effeithiol gyda syrfewyr yr LABC
- Crefftwaith rhagorol
- Arloesi technegol
- Cynaliadwyedd a pherfformiad uchel
- Y gallu i ganfod ffyrdd creadigol o ddatrys problemau technegol
- Defnyddio cynhyrchion arloesol a'r sgiliau i oresgyn amodau anodd ar safle
Caiff enillwyr rhanbarthol ym mhob categori eu rhoi'n awtomatig ar restr fer Rownd Derfynol Fawr yr LABC a gynhelir yn Llundain.
Pwy sy'n cael cynnig (a gwybodaeth ddefnyddiol arall)?
Caiff unrhyw un sy'n ymwneud â'r prosiect gyflwyno cynnig, gan gynnwys contractwyr, penseiri, cleientiaid a syrfewyr rheoli adeiladu awdurdodau lleol.
Bydd syrfëwr rheoli adeiladu awdurdod lleol yn ardystio pob cynnig.
Gallwch chi weld mwy o wybodaeth am y gofynion cynnig, ynghyd â rhestr lawn o'r categorïau a'r meini prawf beirniadu, a dysgu sut i gyflwyno cynnig a fydd yn ennill.
Gallwch chi ddarganfod pwy yw ein noddwyr a gwylio fideo o Rownd Derfynol Fawr y llynedd.